Toni’n gwrthod talu dirwy barcio

Achos llys gan nad oedd opsiwn i dalu’r ddirwy yn Gymraeg

Mererid
gan Mererid

Mae Toni Schiavone, un o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn wynebu achos llys ddydd Mercher am wrthod talu dirwy parcio am nad oedd modd gwneud hynny trwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd yr achos llys yn cael ei gynnal yn Llys Ynadon Aberystwyth (Y Lanfa, Trefechan, Aberystwyth SY23 1AS) am 10, bore Mercher, 11 Mai.

Pwy yw Toni?

Mae Toni yn adnabyddus fel athro Ysgol Uwchradd Llanrwst, ac roedd yn fab i garcharor rhyfel o’r Eidal.

Cyn ymddeol, roedd Toni yn Ddirprwy Gyfarwyddwr ac yna Gyfarwyddwr Cymru’r Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol, gyda chyfrifoldeb dros Strategaeth Sgiliau Sylfaenol gydol oes Llywodraeth Cymru.

Cyn hynny roedd yn ymgynghorydd addysg y dyniaethau ysgolion cynradd ac uwchradd ar draws gogledd orllewin Cymru, yn gweithio fel arolygwr Estyn ac yn diwtor addysg oedolion rhan amser.

Mae yn weithgar iawn gyda Cymdeithas yr Iaith a’i fab Owain, wedi setlo yn Aberystwyth ers nifer o flynyddoedd.