I ddathlu Gŵyl Ddewi yn Aberystwyth, trefnodd Cymdeithas Dai Barcud ginio i’r tenantiaid yn fflatiau Rheidol Place, Aberystwyth heddiw i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.
Roedd maer Aberystwyth, y Cynghorydd Alun Williams yn mynychu, ac roedd yn dda gweld gallu dychwelyd i gynnal digwyddiadau lle mae cyfle i bawb gwrdd wyneb yn wyneb.
Mae Barcud yn chwilio am nifer o staff yn Aberystwyth – gan gynnwys Gweinyddydd Systemau, Uwch Swyddog Cytundebau a glanheuwyr ar gyfer eu lleoliadau yn Aberystwyth. Os ydych chi yn nabod rhywun a diddordeb – y linc yw https://www.barcud.cymru/recruitment/