gan
Sue jones davies
![IMG_2309](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/6/2022/09/IMG_2309-308x190.jpg?14)
a
Dyma rai o aelodau cangen Aberystwyth Rhyddid Rhag Artaith yn cymryd rhan mewn taith gerdded i godi arian.
Enw’r prosiect yw “Croesi dros Ddŵr.”
Pwrpas her “Croesi dros Ddŵr ” yw sefyll gyda’r teithiau anodd a pheryglus a wneir gan ffoaduriaid a cheiswyr lloches bob dydd ar draws cyrff dŵr. Mae mwy o fanylion ar y wefan yma.
Roedd ein taith ni yn ddiogel ac yn hawdd, gan gerdded yn Nhan-y-Bwlch a thros yr afon Ystwyth.
Ac unwaith eto, cawn ein hatgoffa pa mor lwcus ydyn ni i fyw yng Nghymru.