Rali Bae Ceredigion

Enwau mawr yn rasio ar hewlydd Gogledd Ceredigion

Y Ddolen (papur bro)
gan Y Ddolen (papur bro)

Does dim posib anwybyddu’r ffaith fod yna rali geir mawr yn digwydd yn yr ardal dros y penwythnos yma!

Mae Rali Bae Ceredigion yn cael ei gynnal am yr ail waith eleni yn dilyn digwyddiad llwyddiannus yn 2019. Disgwylir i 120 o geir rasio gymryd rhan dros 12 cymal.

Aberystwyth fydd canolbwynt cyffro’r cymalau cyntaf yn gynnar nos Sadwrn cyn i’r rasio symud allan i hewlydd ardal Y DDOLEN wedi iddi dywyllu nos Sadwrn a thrwy’r dydd Sul.

Ceir erthygl sy’n cynnwys cyfweliad gydag Andrew Edwards, un o drefnwyr y rali yn rhifyn Y DDOLEN Medi sydd allan yn eich siop leol nawr.

Does dim amheuaeth fod gwaith trefnu aruthrol wedi mynd mewn i gynnal digwyddiad o’r maint yma a thipyn o gydweithio wedi gorfod digwydd gyda’r cymunedau lleol.

Dywedodd Dylan Jenkins, Pontarfynach

Mae trefnwyr y rali wedi cydweithio’n dda gyda’r gymuned. Roedden wedi gwneud sawl ymweliad personol gyda thrigolion yr ardal i roi digon o rybudd a gwybodaeth am y digwyddiad fel pa hewlydd bydd ar gau, amseroedd a llwybr y rali ac yn y blaen. Yn fy marn i, mae’r rali yn beth da i’r gymuned, mae busnesau lleol yn gallu elwa o’r digwyddiad gyda’r nifer o gefnogwyr yn dod i’r ardal, hefyd sefydliadau fel y C.Ff.I ac Ysgolion yn cael cynnig arian i helpu gyda pharcio ceir a marsialu.

Ceir gwybodaeth ar wefan Cyngor Sir Ceredigion am yr hewlydd fydd AR GAU yn ystod y penwythnos.  Dilynwch y linc yma i’r dudalen.

Os oes diddordeb gyda chi fynd i wylio’r rali, rhaid mynd i un o’r ardaloedd cefnogwyr swyddogol. Mae tocynnau ar werth am hanner pris ar wefan y rali tan hanner nos, nos Wener.
Dilynwch y linc yma i’r dudalen berthnasol.