gan
Sue jones davies
Ymgasglodd grŵp o drigolion lleol y tu allan i Tesco yn Aberystwyth dydd Sadwrn 3 Rhagfyr, i dynnu sylw at wir gost cyw iâr ‘rhad” a gynhyrchwyd yn ddwys.
Cyflwynwyd llythyr yn gofyn i Tesco arwyddo ar frys i “Better Chicken Commitment”, sef set o safonau ar gyfer lles brwyliaid. Mae cwmnïau eraill, megis Marks and Spencers, Kentucky Fried Chicken a Subway i gyd eisoes wedi ymrwymo i’r ymrwymiad hwn i sicrhau gwell lles i’r holl gywion ieir a werthir.