Prifysgol Aberystwyth yn dathlu 150 mlynedd yn yr Eisteddfod

Cyfle i ymweld a Neuadd Pantycelyn ar ei newydd wedd

Prifysgol Aberystwyth
gan Prifysgol Aberystwyth
Am ddim i BroAber360 / Papurau Bro

Sefydlwyd Prifysgol Aberystwyth ym 1872 o ganlyniad i ymdrechion i godi arian yn lleol ac yn genedlaethol er mwyn sefydlu’r brifysgol gyntaf yng Nghymru.

Ym mis Awst, bydd y Brifysgol yn dechrau ei 150fed blwyddyn academaidd, ac mae nifer o ddigwyddiadau yn cael eu trefnu yn yr Eisteddfod i ddathlu.

Ddydd Mawrth yr 2il o Awst ar faes yr Eisteddfod, bydd y Brifysgol yn lansio blwyddyn o ddathliadau pen-blwydd arbennig. Bydd cyfle i weld casgliad o eitemau o bwys hanesyddol i’r Brifysgol, gan gynnwys cerflun bach o’r Is-ganghellor cyntaf, Thomas Charles Edwards, a bathodyn carchar y cyn-ddarlithydd, y bardd a’r gwrthwynebydd cydwybodol Gwenallt.

Ar ddydd Iau y 4ydd o Awst 2022, cynhelir digwyddiad i gofio hanes dau fyfyriwr a enillodd y gadair yn Eisteddfod y Coleg yn 1912 a 1914 – Gwilym Williams a laddwyd yn Ffrainc yn 1916 yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a Dorothy Bonarjee, y fenyw gyntaf o liw i’w hennill.

Bydd y gadair eisteddfodol a enillodd Gwilym Williams i’w gweld ar stondin y Brifysgol drwy gydol yr wythnos. Mae ymhlith 150 o wrthrychau fydd yn ymddangos mewn cyfrol arbennig o’r ewn Ceiniogau’r Werin / The Pennies of the People sydd i’w chyhoeddi ym mis Hydref fel rhan o’r dathliadau pen-blwydd.

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth yr Athro Elizabeth Treasure:

“Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn ddigwyddiad pwysig iawn i ni ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac yn arbennig eleni gan ei bod yn dychwelyd i Geredigion am y tro cyntaf ers dros chwarter canrif ac yn cael ei chynnal yn y cnawd am y tro cyntaf ers tair blynedd. Ac mae iddi arwyddocâd ychwanegol i eleni wrth i ni ddechrau dathlu ein 150 mlwyddiant – cyfnod hynod gyffrous.”

Ar ddydd Sul, 31ain o Orffennaf, cynhelir diwrnod agored yn Neuadd Pantycelyn, gan gynnig y cyfle cyntaf i’r cyhoedd a chyn-fyfyrwyr ymweld â’r llety myfyrwyr eiconig ers iddi ail-agor ar ei newydd wedd yn 2020 yn ystod y pandemig.

Ychwanegodd yr Athro Treasure:

“Mae dechrau ar ein dathliadau 150 mlwyddiant yn gyfle heb ei ail i drin a thrafod hanes cyfoethog y Brifysgol, ac i edrych ymlaen hefyd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld llawer o ddatblygiadau cyffrous yma. Un ohonyn nhw, ac un sydd o bwysigrwydd eithriadol i’r Gymraeg, yw ail-agor Neuadd Pantycelyn, sy’n ofod mor bwysig i’r Gymraeg yn lleol ac yn genedlaethol.

“Rydyn ni hefyd yn sefydliad sy’n tyfu, gyda’r Ysgol Gwyddor Filfeddygol gyntaf yng Nghymru yn agor yma’r llynedd, ac addysg nyrsio yn cychwyn am y tro cyntaf ym mis Medi eleni. Mae gennym ni lawer iawn i’w ddathlu yn y Brifwyl eleni felly.”

Yn ogystal â’r digwyddiadau ar ei stondin, bydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnal sawl digwyddiad ym Mhentref Dysgwyr ac fel prif noddwr y Pentref Gwyddoniaeth ar y Maes. Bydd Canolfan Celfyddydau’r Brifysgol hefyd yn cynnal arddangosfa ‘Salon de Refuses’ sy’n cynnwys darnau celf o’r Eisteddfod.

Holl Digwyddiadau Prifysgol Aberystwyth yn yr Eisteddfod (Stondin M05)

Ddydd Sul 31 Gorffennaf am 11:15ybyn y Babell Lên, cynhelir digwyddiad i gofio bywyd a chyfraniad Dr Tedi Millward gan Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd y Brifysgol a bydd cyflwyniadau gan Bleddyn Owen Huws, Llio Millward, Cynog Dafis, Mark Lewis Jones a darlledwr y BBC Huw Edwards.

2yp ymlaen yr un dydd, bydd diwrnod agored yn Neuadd Pantycelyn yn Aberystwyth.

Ddydd Llun 1 Awst am 2pm, arweinir trafodaeth ‘Addysg, amser a lle: Ymchwil diweddar ar faterion cyfoes yn y byd addysg yng Nghymru’ gan ymchwilwyr yr Ysgol Addysg ar ystod o brosiectau ymchwil, gan gynnwys effaith y Pandemig COVID-19 ar y system addysg, a’r cwricwlwm newydd.

Ddydd Mawrth 2 Awst am 11yb ym Mhabell y Cymdeithasau 1, cynhelir trafodaeth banel am ddiwygio’r Senedd gyda’r siaradwyr yn cynnwys Siân Gwenllian AS, dan gadeiryddiaeth Dr Elin Royles.

Cynhelir seremoni wobrwyo dysgwyr gorau’r canolbarth gan Ganolfan Dysgu Cymraeg ar stondin y Brifysgol am11:30yb ar ddydd Mawrth 2 Awst.

Am 15:30 ddydd Mawrth 2 Awst ar stondin y Brifysgol, mewn digwyddiad o’r enw ‘Hawlio Heddwch’, bydd Cadeirydd Academi Heddwch Cymru, Dr Rowan Williams, yn rhoi crynodeb o’i waith.

Yn ddiweddarach ar yr un diwrnod cynhelir digwyddiad i lansio blwyddyn o ddathliadau’r 150 a gadeirir gan Dr Rhodri Llwyd Morgan yng nghwmni’r Is-ganghellor yr Athro Elizabeth Treasure, y Dirprwy Is-ganghellor yr Athro Anwen Jones a’r Athro Mererid Hopwood.

Bydd Dr Charnell-White, Rebecca Roberts, yr Athro Wini Davies a Rosanne Reeves yn trafod llenyddiaeth menywod yng Ngheredigion am 12pm ar ddydd Mercher ym Mhabell y Cymdeithasau 1 mewn digwyddiad o’r enw “Dilyn ôl-traed Cranogwen: Cyhoeddi Llen menywod yng Ngheredigion” a gynhelir ar y cyd â Honno Gwasg Menywod Cymru.

Am 13:00 yr un dydd, bydd Dr Anwen Elias a Dr Elin Royles yn trafod casgliadau’r prosiect “Galwadau cyfansoddiadol pleidiau cenedlaetholgar Ewrop” ym Mhabell y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Ar ddydd Iau 4 Awst am 11yb, cynhelir trafodaeth am hanes y ddau fardd-fyfyriwr a enillodd y gadair yn Eisteddfod y Coleg yn 1912 a 1914 – Gwilym Williams a laddwyd yn Ffrainc yn 1916 a Dorothy Bonarjee, y fenyw gyntaf o liw i’w hennill. Bydd Dr Cathryn Charnell-White, Faeeza Jasdanwalla-Williams, Eurig Salisbury ac Iestyn Tyne yn siarad yn y digwyddiad.

Ar ddydd Gwener 5 Awst am 11yb, bydd Dr Elin Royles yn cynnal trafodaeth gyda Mali Thomas o’r Urdd, a chriw o fyfyrwyr fu’n llunio Neges Heddwch 2022 ar thema’r argyfwng hinsawdd a gyflwynwyd yn Norwy yn gynharach eleni.

Cynhelir trafodaeth rhwng Dafydd Rhys, Eddie Ladd, Gethin Scourfield gan Adran Theatr, Ffilm a Theledu’r Brifysgol am hanes y fideo cerddoriaeth Gymraeg, gan ganolbwyntio ar hanes Fideo 9, am 2:30pm ddydd Gwener 5 Awst ym Mhabell y Cymdeithasau 2.

Ddydd Sadwrn am 11am cynhelir trafodaeth o’r enw “Cymru: Cenedl Noddfa?” ym Mhabell y Cymdeithasau 1.