Plannu coed afalau yn yr Ysgol Gymraeg

Mae’r berllan yn tyfu

gan Sue jones davies

Ddydd Mercher fe blannodd aelodau Grŵp Gwyrddwch Aberystwyth, ynghyd â disgyblion yr Ysgol Gymraeg, yn enwedig aelodau Grŵp Eco’r ysgol, ddwy goeden ffrwythau ym mherllan yr ysgol.

Mae Afal Ynys Enlli wedi’i gydnabod fel yr afal prinnaf yn y byd. Darganfuwyd yr afal arall, a elwir y Cox Cymraeg, yng ngardd Anne Jones, Bangor!

Mae’r plant i gyd yn edrych ymlaen at fwyta’r cynhaeaf.