Pennod newydd i Meleri

Rhedeg hanner marathon Caerdydd am y tro cyntaf

gan Deian Creunant
Meleri-Wyn-James

Yn dilyn ei gohirio deirgwaith yn sgil y pandemig, mae hanner marathon Caerdydd yn ei hôl ddiwedd y mis, a bydd nifer o aelodau Clwb Athletau Aberystwyth yn rhedeg yr 13.1 milltir o amgylch strydoedd y brifddinas. Ymhlith y miloedd fydd yn cymryd rhan fydd yr awdur o Aberystwyth Meleri Wyn James, a fydd nid yn unig yn cymryd rhan yn ei hanner marathon cyntaf ond hefyd yn codi arian at achos hynod o bwysig.

Mae’n anhygoel meddwl mai dim ond rhyw dair blynedd yn ôl y dechreuodd Meleri, sy’n fam i ddwy ferch yn ei harddegau, redeg gyda’r grŵp Couch to 5K lleol ond mae wedi dal ati ers hynny ac mae bellach yn aelod ffyddlon o Glwb Athletau Aberystwyth,

“Pe bai rhywun wedi dweud wrtha i dair blynedd yn ôl y byddwn i nawr yn paratoi ar gyfer fy hanner marathon cyntaf, fe fyddwn i wedi chwerthin mewn anghrediniaeth. Ond mae cefnogaeth fy nghyd-aelodau o’r clwb, a’r holl hyfforddwyr sy’n rhoi o’u hamser yn rhad ac am ddim, yn gwbl anhygoel. Rydym yn rhedeg ym mhob tywydd ac yn cael ein hannog i roi o’n gorau, ond mae yna ddigonedd o chwerthin hefyd. Dwi bob amser yn teimlo’n dda ar ôl sesiwn redeg.”

Ond mae yna gymhelliant ychwanegol i Meleri gwblhau cwrs Caerdydd,

“Byddaf yn codi arian ar gyfer Cymorth i Ferched Cymru oherwydd, fel y noda’r elusen, mae trais yn erbyn menywod yn fusnes i bawb. Mae 1 o bob 3 menyw yn profi rhyw fath o drais a chamdriniaeth yn ystod ei hoes, sy’n ddigon i sobri rhywun, yn enwedig o ystyried bod modd ei atal, ac mae angen iddo ddod i ben.

“Mae llinell gymorth Byw Heb Ofn yn derbyn dros 30,000 o alwadau ffôn, sgyrsiau ar y we, negeseuon testun ac e-byst bob blwyddyn, felly mae’n hanfodol fod staff ar gael 24 awr y dydd, bob dydd. Yn anffodus, cyfnod y Nadolig diwethaf a’r Flwyddyn Newydd oedd y cyfnod prysuraf y mae Llinell Gymorth Byw Heb Ofn wedi’i brofi erioed. Bydd rhywun rydw i’n ei adnabod – neu rydych chi’n ei adnabod – wedi defnyddio’r adnodd achub bywyd hwn ar ryw adeg, felly rydw i’n falch o allu dangos fy nghefnogaeth i’r elusen hollbwysig hon.

“Ras Caerdydd fydd fy hanner marathon cyntaf a dwi’n edrych ymlaen yn fawr – er yn teimlo ychydig yn ofnus yr un pryd! Dwi’n lwcus y bydda’ i’n cael cwmni fy ffrind a fy nghyd-redwraig Heather Webster ar y diwrnod. Byddwn ni’n cadw’n gilydd i fynd – ac fe wela i chi i gyd ar y llinell derfyn!”

Gallwch gefnogi’r elusen hon drwy fynd i dudalen justgiving Meleri.

Os hoffech glywed mwy am Glwb Athletau Aberystwyth ac ymuno yn ei weithgareddau, ewch i aberystwythac.wordpress.com neu dewch o hyd i’r clwb ar Facebook.