Her penblwydd i redwraig o Aberystwyth

Cyfle i ymlacio, cael pryd o fwyd gyda ffrindiau a mwynhau diod neu ddau yw diwrnod eich penblwydd. Ond nid felly os mai Lynwen Huxtable o Glwb Athletau Aberystwyth ydych chi, gan iddi threulio ei phen-blwydd yn 54 oed yn cymryd rhan yn ei her redeg fwyaf hyd yn hyn – Ultramarathon 50 km Llangollen.

gan Deian Creunant

Lynwen wedi croesi’r llinell derfyn




Ar ddiwrnod sych, ond gwyntog o Fehefin, fe fentrodd Lynwen ar un o rasys mwyaf heriol Cymru. Yn dilyn cychwyn cynnar mae’r rhedwyr yn mynd allan ar lwybr Dyffryn Dyfrdwy i gyfeiriad Corwen, gan groesi’r afon ar y pwynt hanner ffordd, cyn ymuno â Llwybr Gogledd y Berwyn a dilyn y llwybr am yn ôl i Langollen.

Mae’r dringfeydd serth yn cyrraedd y copa ar ben Moel Fferna gyda golygfeydd godidog dros y dyffryn. Yn dilyn cwrs caled, bryniog dros gorstir, llwybrau coetir troellog, corsydd dwfn hyd at eich pigyrnau a gorfod sgrialu trwy raeadrau llawn grug, roedd y disgyniad olaf am i lawr yn un i’w groesawu, er yn broses araf oherwydd  y creigiau rhydd a cherrig anwastad.

Wedi croesi’r bont yn ôl i dref fywiog Llangollen, roedd Lynwen yn falch o weld y llinell derfyn,

“Roedd hon yn her enfawr i fi – penderfynais llynedd fy mod eisiau rhoi cynnig ar ras ultra ac roedd hon i’w gweld yn addas iawn. Mae angen agwedd wahanol iawn i ras ffordd arferol – allwch chi ddim poeni am eich amser – mae’n rhaid i chi ganolbwyntio ar beidio â chwympo a sicrhau eich bod yn mynd i’r cyfeiriad cywir. Roedd yn rhaid i fi ddysgu’n gyflym iawn sut i ddefnyddio cwmpawd, er i fi fynd ar goll o hyd.

“Rhaid i fi ddiolch i fy nghyd aelodau yng nghlwb athletau Aberystwyth sydd wedi fy helpu, fy hyfforddi a’m cefnogi dros y misoedd diwethaf – roedd yr holl waith caled yn bendant yn werth chweil yn y diwedd – a gallaf ddweud, nawr fod e drosodd, fy mod wedi mwynhau yn fawr.

“Diolch hefyd i’r rheiny sydd wedi fy noddi ac sydd wedi fy helpu i godi dros £700 i Sefydliad DPJ, elusen Gymreig sy’n cefnogi’r rhai mewn cymunedau gwledig ac ym myd amaethyddiaeth sydd â phroblemau iechyd meddwl. Caiff yr arian ei werthfawrogi’n fawr.”

Daeth anrheg pen-blwydd ychwanegol i Lynwen wrth i’r newyddion gyrraedd iddi gael ei dewis i redeg dros Gymru yn yr hanner marathon ym mhencampwriaeth Meistri Athletau Cymru gaiff eu cynnal yn Ninbych-y-pysgod ar 3 Gorffennaf. Bydd yn ymuno yno â’i chydredwr o glwb Aberystwyth, Paul Williams sydd wedi’i ddewis i redeg y ras 10 cilomedr dros Gymru – llongyfarchiadau gwresog i’r ddau!

Os hoffech glywed mwy am Glwb Athletau Aberystwyth ac ymuno yn ei weithgareddau ewch i aberystwythac.wordpress.com neu chwiliwch am y clwb ar Facebook.