Nadolig y Garn

Gwasanaethau arbennig i ddathlu’r Nadolig

Marian Beech Hughes
gan Marian Beech Hughes
nadolig-garn-6447

Dydd Sul, 18 Rhagfyr, roedd yna ddau wasanaeth Nadoligaidd yng Nghapel y Garn, Bow Street.

Gwasanaeth teuluol oedd yna yn y bore: fe ddangoswyd ffilm newydd Anhygoel Ddydd, gyda chwis hwyliog y Gweinidog, y Parch Watcyn James, yn dilyn.

Yna, gyda’r hwyr, cynhaliwyd gwasanaeth ‘Y Gair a’r Geiriau’, detholiad o ddarlleniadau wedi’u seilio ar deimladau ac ymateb Mair, mam Iesu, i’r Nadolig cyntaf. Cafwyd eitemau hefyd gan y Parti Canu, dan arweiniad Alan Wynne Jones, ac fe fuon ni’n canu rhai o’n hoff garolau – cyn aros i gymdeithasu a sgwrsio dros baned yn y festri.

I goroni ein dathliadau Nadolig, bydd oedfa fer yn y capel am 9 o’r gloch ar fore’r Nadolig – ac mae croeso cynnes i bawb droi i mewn.