Dod i ’nabod Tregaron

Paratoad i’r ’Steddfod

gan Medi James
P1020809

Wendy a Francis ar y daith gerdded

P1020813

Criw Un o’r Miliwn yn cael hanes Tregaron

Mae rhai o ddysgwyr Cymraeg Ceredigion yn brysur ddod yn siaradwyr Cymraeg newydd. Maent wedi bod yn dysgu dan nawdd Eisteddfod Ceredigion ers y cyfnod clo cyntaf. Mae criw yn parhau i ddod at ei gilydd ar deithiau cerdded ym mhrif drefi’r Sir dan arweiniad unigolion lleol. Sadwrn diwetha Huw a Bronwen Morgan oedd yn ein tywys.

Adroddir gweddill yr hanes gan Wendy a Frances. Dwy o’r miliwn sy’n brysur ddod yn rhugl ac yn edrych ymlaen i gynorthwyo ym Maes D  yn yr Eisteddfod. Mae Wendy a Frances wedi bod yn yr un dosbarth Cymraeg ar-lein, ers mis Medi 2020 a llwyddon nhw i gwrdd wyneb yn wyneb am y tro cyntaf yn Nhregaron! Roedd yn syrpreis hyfryd!

Taith Gerdded yn Nhregaron

Cwrddon ni â grŵp dysgwyr Cymraeg a ffrindiau yn sgwâr y Talbot dydd Sadwrn, 9fed o Ebrill.

Roedd y tywydd yn braf a sych, a phawb yn hapus.

Dysgon ni am Henry Richard, Apostol Heddwch, Twm Siôn Cati, y ‘ Robin Hood’ o Dregaron a’r porthmyn hanesyddol.

Gwelson ni dai y gwehyddion, ger afon Brennig. Gwelson ni lawer o gapeli a hen dafarnau! adeiladau hanesyddol a Bryngaer oes Haearn.

Mae Tregaron yn ddiddorol iawn ac yn llawn awyrgylch. Roedd y tywysydd sef Huw yn wybodus iawn. Diolch yn fawr iawn i’n tywysydd Huw, Medi a phawb.

Mwynheuon ni ddiwrnod hyfryd!

Wendy a Frances