Sêr Michelin i ddau fwyty yng ngogledd Ceredigion

Cafodd bwyty Ynyshir ddwy seren yn y canllaw eleni, tra bod SY23 wedi cael un

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Nathan Davies, cogydd SY23 yn Aberystwyth

Mae dau fwyty yn ardal BroAber wedi cael cydnabyddiaeth arbennig yn y diwydiant yn ddiweddar.

Yr wythnos hon, cafodd bwyty Ynyshir, sydd wedi eu lleoli ar lannau’r afon Dyfi, eu hail seren Michelin, tra bod bwyty SY23 yn Aberystwyth wedi cael eu seren gyntaf.

Fe dderbyniodd SY23 wobr am y bwyty newydd gorau ym Mhrydain ac Iwerddon hefyd yr wythnos hon.

Ynyshir

Gareth Ward yw prif gogydd a pherchennog bwyty Ynyshir yn Eglwysfach, sydd â golygfeydd godidog o aber yr afon Dyfi a’r bryniau sydd wedi eu lleoli yng ngwaelod Parc Cenedlaethol Eryri.

Dywed y canllaw Michelin bod y bwyty’n cynnig “profiad gwirioneddol unigryw” a’n defnyddio’r gorau o gynnyrch Cymreig er mwyn coginio’r degau o brydau bychain sy’n cael eu cynnig i bob ymwelydd.

Gyda dylanwad gan fwyd Asiaidd, mae’r prydau yn cynnwys “amrywiaeth o flasau a gweadau bywiog a chyferbyniol.”

Roedd y beirniaid yn amlwg wedi eu plesio gan y profiad, gan roi dwy seren i’r bwyty – yr unig un yng Nghymru i gyflawni hynny yn 2022.

SY23

Roedd prif gogydd yr ail fwyty, Nathan Davies, yn arfer bod yn is-gogydd ym mwyty Ynyshir, ac mae’n amlwg bod y dylanwad hynny wedi aros gydag e.

Mae’r bwyty wedi ei leoli ar dop Y Stryd Fawr yng ngolwg cloc y dref, ac mae’n cynnig profiad bwyta o safon, gydag awyrgylch “bywiog” a chegin agored.

Yn ôl y beirniaid, mae’r seigiau yn “dwyllodrus o syml” a’n cynnwys “dyfnder go iawn o ran blas”

Dywed Nathan Davies bod y bwyty’n credu’n gryf mewn egwyddorion cynaliadwyedd, blas, a chadw cynnyrch yn lleol.

“Rydyn ni’n lwcus iawn o gael byw yma’n Aberystwyth yng nghanol cefn gwlad mor hyfryd ac amrywiol,” meddai.

“Mae’n dylanwad ni’n dod o hynny, ac rydyn ni’n casglu cynnyrch o’r goedwig, y perthi, y mynyddoedd a’r arfordir.

“Dw i am ddiolch i bawb sydd wedi gwneud hyn yn bosibl. Mae hon yn foment falch i ni gyd, a dw i’n methu aros i weld beth ddaw yn ystod y blynyddoedd nesaf.”