gan
Maldwyn Pryse
Mae het fwced goch, anferth, arbennig iawn, newydd gyrraedd Aberystwyth!
Dim ond pump o’r hetiau hyn sydd wedi eu gosod ar draws Cymru, ac mae’r gweddill yng Nghaerdydd, Abertawe, Bangor a Wrecsam. Dyma’r het sy’n cael ei chysylltu â chefnogwyr tîm pêl-droed Cymru, wrth gwrs.
Bydd y darn celf arbennig yma, sy’n mesur 10 troedfedd sgwâr, yn cael ei oleuo yn lliwiau Cymru – coch, gwyrdd a melyn – fel rhan o’r dathliadau i dynnu sylw at orchest Cymru yn cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd!
Dyma’r tro cyntaf i Gymru gyrraedd y rowndiau terfynol ers 1958 a mawr yw’r disgwyliadau, er gwaethaf y sefyllfa wleidyddol yn Qatar.
Pob hwyl i garfan Cymru – a chofiwch alw heibio i weld yr het yn Sgwâr Llys y Brenin.