Lyn a’i lyfrau!

Roedd gan y diweddar Lyn Dafis lyfrgell wych, ac roedd hi’n dweud llawer am y dyn.

gan Richard Owen

Dyma rai o silffoedd gweigion y Ficerdy ym Mhenrhyn-coch ar ôl gwasgaru llyfrgell wych Lyn Lewis Dafis. Gwaith diflas oedd chwalu’r casgliad, ond gwaith diddorol hefyd. Roedd yno tua 2,500 o lyfrau crefyddol a thua’r un faint o lyfrau iaith, hanes, llenyddiaeth, coginio etc. Roedd y llyfrau crefyddol wedi eu gosod yn ofalus mewn trefn, ond doedd o ddim wedi cael amser i roi trefn ar y lleill cyn eu gosod ar y silffoedd, felly roedd y cyfan yn gymysg. Ond roedd un eithriad – roedd tua tair silffaid o lyfrau am Sir Benfro ac yn eu mysg roedd o leiaf chwe chopi o Dail Pren, Waldo Williams. Fel y dywedodd Lyn sawl gwaith, ‘Ellwch chi byth gael gormod o gopiau o Dail Pren!‘ Ond roedd aml gopiau o sawl llyfr. Rwy’n siwr mai un rheswm am hyn oedd nad oedd erioed wedi cael digon o le i’w holl lyfrau ar silffoedd cyn cyrraedd y Ficerdy, felly fe brynai ail neu drydydd copi weithiau gan ei fod yn methu dod o hyd i’r cyntaf! Am ryw reswm roedd ganddo sawl copi o Chwedlau Odo, chwedlau Cymraeg Canol wedi’u golygu gan Ifor Williams. Rwy’n credu iddo ddweud wrthyf ei fod wedi astudio’r llyfr ar gyfer lefel A, a’i fod y pryd hynny’n meddwl ei fod yn ddewis od iawn ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau. Ond pam y cronnodd o sawl copi, wn i ddim. Mae’n rhaid fod gan y llyfr ryw afael arno.

Yn ôl y rhai a fu’n gweld ei lyfrau crefyddol, roedd ganddo ddewis gwych iawn o lyfrau gan gynnwys tua 12 silffaid o esboniadau, gan ddechrau yn Genesis a gorffen gyda’r Datguddiad. Ymysg y llyfrau eraill roedd yna amrywiaeth fawr. Oherwydd ei ddiddordeb oes mewn ieithoedd, yn enwedig rhai lleiafrifol, roedd yna lyfrau gramadeg a dysgu iaith yn trafod y Gymraeg a’r ieithoedd Celtaidd eraill, Lladin, Ffrangeg, Sbaeneg, Basgeg, Iseldireg (gyda sylw arbennig i Iseldireg Fflandrys ble’r oedd hi wedi ei thrin fel iaith leafrifol) a Maori ac ambell un arall megis Finnish for fun. Roedd yna lyfrau hanes a gwleidyddiaeth o bob math, a dewis da iawn o lyfrau coginio, un o’i bleserau. Roedd silffaid neu ddwy o lyfrau barddoniaeth, Cymraeg a Saesneg, ond ychydig iawn o nofelau. Rwy’n credu mai’r unig adeg y prynai nofel oedd pan ofynnid iddo adolygu un! Ond roedd ganddo gopi o How to write a novel a hefyd How to talk about books without reading them! Dyna fy hoff deitl i!

Llwyddwyd i werthu’r rhan fwyaf o’r llyfrau’n lleol. Mae cyfran helaeth o’r rhai crefyddol wedi mynd i’r Little Bookshop by the Sea yn Stryd Talbot, a llawer o’r rhai hanes, iaith etc i Ystwyth Books, The Literary Cat ym Machynlleth ac i Gwyn Tudur. Aeth y gweddill i siopau elusen lleol. Felly, os ydych yn mynychu’r siopau hyn efallai y dewch ar draws rhai o’r llyfrau, er mai ychydig ohonynt sydd â’i enw arnynt. Ond os teimlwch fod rhyw ysbryd direidus yn agos, efallai mai ef fydd yna!