Llond cae o bwmpenni!

Teulu Pendre yn mentro gyda menter newydd

Enfys Medi
gan Enfys Medi

Mae profiadau pigo pwmpenni yn rhywbeth sydd wedi tyfu mewn poblogrwydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf ond tan ‘leni doedd dim profiad o’r fath yng Ngogledd Ceredigion.

Llanfihangel y Creuddyn yw’r lle i fod yn yr wythnosau yn arwain i fyny i Galan Gaeaf eleni! Ewch am dro i Pwmpenni Pendre.

Diolch i Tom, Beth a’r teulu am y croeso cynnes prynhawn dydd Sul.

Mwynhewch y fideo a diolch i Sara Gibson am gael cynnwys uchafbwyntiau eu hymweliad hi yn y ffilm fer.