Llety’r Eos, Penparcau

Golwg ar y fflatiau newydd ym Mhenparcau

Mererid
gan Mererid

O’r diwedd, mae croeso mawr i drigolion newydd Penparcau i Lety’r Eos.

Rhes o garejis oedd yn arfer bod ar y darn o dir bychan ar Heol Dinas, rhwng y fflatiau ac Ysgol Llwyn yr Eos.

Cafodd y datblygiad ei ariannu gan gymdeithas dai Barcud yn rhannol drwy grant dan Raglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru.  Mae 9 fflat un ystafell wely gyda rhent fforddiadwy.

Roedd y datblygiad arloesol yma yn bartneriaeth rhwng Barcud a Williams Homes Bala.

Maent yn adeilad cynaliadwy iawn sy’n arddangos y dulliau modern diweddaraf o dechnolegau adeiladu a pherfformiad ynni.

Edrych ymlaen at groesawu y trigolion i’n plith.