gan
Mererid
O’r diwedd, mae croeso mawr i drigolion newydd Penparcau i Lety’r Eos.
Rhes o garejis oedd yn arfer bod ar y darn o dir bychan ar Heol Dinas, rhwng y fflatiau ac Ysgol Llwyn yr Eos.
Cafodd y datblygiad ei ariannu gan gymdeithas dai Barcud yn rhannol drwy grant dan Raglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru. Mae 9 fflat un ystafell wely gyda rhent fforddiadwy.
Roedd y datblygiad arloesol yma yn bartneriaeth rhwng Barcud a Williams Homes Bala.
Maent yn adeilad cynaliadwy iawn sy’n arddangos y dulliau modern diweddaraf o dechnolegau adeiladu a pherfformiad ynni.
Edrych ymlaen at groesawu y trigolion i’n plith.