Sŵn y Gân yn llenwi coridorau Ysgol Penweddig!

Sioe Ysgol Penweddig – 9, 10, 11 o Dachwedd 2022

Catrin Mai Davies
gan Catrin Mai Davies
Y Barchedig Fam a Maria
Maria a'r Plant Von Trapp
Capten Von Trapp, Max ac Elsa
Y Band
POSTER

Fel rhan o ddathlu 50 mlynedd Ysgol Penweddig, mae’r ysgol yn paratoi i lwyfannu’r sioe gerdd ‘ Sŵn y Gân’ sef cyfieithiad Cymraeg Delyth Mai Nicholas ac Elsbeth Jones o ‘The Sound of Music’ a ysgrifennwyd gan Richard Rogers ac Oscar Hammerstein.

Dechreuwyd y castio yn nôl yn nhymor yr Haf, gyda Mrs Catrin Mai Davies a Mr Arwel Williams yn cynnal clyweliad i ddisgyblion yr ysgol, gyda nifer o ddisgyblion yn manteisio ar y cyfle i gael profiad o berfformio ar lwyfan.

Wrth ddechrau tymor newydd ym mis Medi, mae’r ymarferion wedi cael eu cynnal bob amser egwyl a chinio, gyda’r disgyblion yn ymarfer eu ‘iowdlo’ (!) ac yn dechrau cyfuno’r actio a’r canu. Mae gwaith tu ôl y llenni hefyd wedi bod ar waith, gyda disgyblion yn peintio’r set o dan oruchwyliaeth Miss Megan Evans, ac yna Mrs Eleri Roderick a thîm o staff yn troi eu llaw at wnïo’r gwisgoedd ac addasu’r ffrog briodas. Mae ein disgyblion cerddorol talentog hefyd wedi bod yn ymarfer a bydd y gerddorfa yn cyfeilio’n fyw ar nosweithiau’r sioe. Mi fydd y disgyblion a’r staff yn ymarfer yn ddiwyd yn ystod yr wythnos nesaf i wneud yn siŵr fod pob DO RE a MI mewn lle ar gyfer nosweithiau’r sioe.

Hoffwn ddiolch fel ysgol i gwmnïau lleol a rhieni sydd wedi noddi’r sioe, ac wedi cyfrannu tuag at wobrau’r raffl.

Mi fydd ‘Sŵn y Gân’ yn dipyn o sioe, ac mae cyfle i’r cyhoedd ddod i gefnogi’r ysgol, a chael gweld ffrwyth llafur y disgyblion a staff yr ysgol ar waith. Dewch draw i fwynhau a chael gwefr!

Bydd ‘Sŵn y Gân’ yn cael ei pherfformio ar y nosweithiau canlynol:

  • Nos Fercher y 9fed o Dachwedd
  • Nos Iau’r 10fed o Dachwedd
  • Nos Wener y 11eg o Dachwedd.

Gallwch archebu eich tocynnau gan ddilyn y cod QR ar y poster, neu chwilio ar wefan  https://www.eventbrite.com/o/ysgol-penweddig-53651921783tbrite