Llanilar ar y brig

Llanilar ar frig cynghrair Cambrian Tyres

Crasfa i Padarn United ar eu cae cartref yng nghae Llety Gwyn – dyna oedd hanes y gêm Padarn a Llanilar dydd Sadwrn, 27ain o Chwefror 2022.

Tra roedd yn tîm Padarn heb sgorio ac un gôl i Lanilar ar hanner amser, sgoriwyd 4 gôl arall yn y chwarter awr olaf i ddod a’r gêm i derfyn dim i bump.

Osian Tomos Phillips-Jones yn sgorio yn y pymthegfed munud, ac Ioan Wyn Jones yn sgorio hatric, 3 gôl o fewn 4 munud (75 munud, 78 munud a 79 munud). I dorri calon tîm Padarn ymhellach, sgoriodd Ryan Hopkins yn yr amser ychwanegol ar y 92ain munud.

Does dim cyfle am ysbaid i Badarn gan y byddant yn wynebu Llanilar eto – y tro yma yn Llanilar ym mharc Bryn y Castell (Castell Hill). 2 o’r gloch ar y 5ed o Fawrth 2022.