Lansio cais ‘dinas llên’ UNESCO

Cais i enwebu Aberystwyth a Cheredigion yn un o ‘ddinasoedd llên’ UNESCO yn 2023

Maldwyn Pryse
gan Maldwyn Pryse
Talat Chaudhri, maer Aberystwyth

Talat Chaudhri yn lansio cais Cyngor Tref Aberystwyth i UNESCO i enwebu Aberystwyth a Cheredigion i fod yn un o ‘ddinasoedd llên’ UNESCO yn 2023

Y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion

Y Cynghorydd Bryan Davies a’r Athro Mererid Hopwood

Y Cynghorydd Catrin M S Davies, aelod cabinet Cyngor Sir Ceredigion

Y Cynghorydd Catrin M S Davies

Dydd Llun, 1 Awst, ym mhabell Cyngor Sir Ceredigion ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, lansiodd Cyngor Tref Aberystwyth gais i enwebu Aberystwyth a Cheredigion i fod yn un o ‘ddinasoedd llên’ UNESCO yn 2023.

Mae’r pwyllgor gwaith yn cynnwys Cyngor Tref Aberystwyth ynghyd â Phrifysgol Aberystwyth, Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Llyfrau Cymru, y Llyfrgell Genedlaethol a’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd. Yn naturiol, gan fod llenyddiaeth yn rhan mor greiddiol o’r dref a’r sir, bydd pwyslais y cais ar lyfrau, darllen a chreadigrwydd llenyddol.