Haf o Hwyl yn Llyfrgell Aberystwyth

Sesiwn stori a crefft gyda’r awdur Sharon Marie Jones

Mererid
gan Mererid

Yr awdur Sharon Marie Jones oedd yn cynnal sesiwn Hwyl yr Haf yn Llyfrgell y Dref ar y 16eg o Awst 2022.

Mae Sharon, sydd yn byw yng Nghapel Bangor, wedi ysgrifennu trioleg o lyfrau plant Grace-Ella, gyda gwasg Firefly Press. Drwy help Mr Whiskins (sy’n wrach), caiff Grace-Ella ddysgu am hud a lledrith gyda Chyngor y Gwrachod.

Yn y digwyddiad, roedd Sharon yn darllen rhannu o’r llyfr a chafwyd gweithdy creu ffon hud o natur, fel y gwelir isod.

Fel rhan o raglen Reading Agency, a gyllidwyd gan £7m o law Lywodraeth Cymru – mae digwyddiadau wedi eu trefnu ar draws Ceredigion.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid:

“Mae cyllid Haf o Hwyl Llywodraeth Cymru yn gwneud gwahaniaeth aruthrol i blant a phobl ifanc Ceredigion, gan ein galluogi i ddarparu cyfleoedd yn rhad ac am ddim drwy gydol gwyliau’r haf ac felly, rydym yn cael gwared â rhwystrau ffioedd mynychu, yn enwedig wrth i gostau byw gynyddu’n ddyddiol. Mae’n hyfryd gweld gweithgareddau mor amrywiol yn cael eu cynnig gan wahanol sefydliadau ledled Ceredigion – o feysydd diwylliannol a chelf a chrefft i gemau, chwaraeon a chwarae. Mae’n wych gweld amgylchedd naturiol ein sir yn cael ei ddefnyddio i ddarparu’r gweithgareddau, gan ein bod yn byw mewn lle mor hardd.  Rydym yn gwybod i weithgareddau Gaeaf Llawn Lles fod yn llwyddiant ysgubol ac edrychwn ymlaen at weld Haf o Hwyl yn llwyddo i’r un graddau os nad gwell!”

Yn wreiddiol o Ddolgellau, daeth Sharon i’r Brifysgol yn Aberystwyth, ac wedi 12 mlynedd o ddysgu fel athrawes gynradd, trodd ei llaw at ysgrifennu. Mae hefyd yn berchennog busnes crefft Swyn y Môr.

Diolch i Sharon am y lluniau a diolch i Lyfrgell Aberystwyth ac i bawb am gymryd rhan.