Holi Miri – Seren sioe Lloergan

Un o ferched Ysgol Penweddig sy’n chwarae un o brif rannau’r sioe sy’n agor yr Eisteddfod Genedlaethol

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
293362714_1900039633527517
292045988_760068585121497

Miri Llwyd o Landre yw un o sêr y sioe sy’n agor yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Aethom i holi Miri shwt brofiad yw bod yn rhan o’r cast…

Beth fydd dy ran di yn sioe Lloergan?

Fi sy’n chwarae rhan Seren – merch y prif gymeriad, Lleuwen.

I bobol sydd ddim yn dy adnabod di, dwêd tamed bach amdano ti dy hun wrthon ni

Dwi’n dod o Landre ger Aberystwyth a dwi yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Penweddig. Dwi wedi bod yn perfformio ar lwyfannau ers yn ifanc. Dwi’n mwynhau canu, actio a dawnsio ac wedi cael cyfle i gymryd rhan mewn nifer o sioeau gwahanol fel aelod o Ysgol Ddawns ac Ysgol Lwyfan Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Dwi hefyd yn mwynhau cystadlu mewn Eisteddfodau fel unigolyn ac fel aelod o bartïon a chorau. Un uchafbwynt oedd cael perfformio ar lwyfan yn Disneyland Paris yn yr Ŵyl Gymreig rhai blynyddoedd yn ôl. Ac eleni, dwi wedi bod yn ddigon ffodus i gael fy newis i fod yn aelod o’r British Youth Musical Theatre, a byddaf yn perfformio mewn sioe gerdd o’r enw Why the Whales Came mewn theatrau yn Taunton a Llundain ddiwedd mis Awst.

Sut deimlad oedd cael rhan yn un o sioeau mawr yr Eisteddfod?

Roedd cael gwybod taw fi oedd yn mynd i chwarae rhan Seren yn Lloergan yn dipyn o sioc, ond yn newyddion hapus iawn! Ro’n i’n llawn cyffro a balchder ac yn edrych ymlaen yn fawr i berfformio’r sioe yn fyw ar lwyfan pafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol!

Sut ma’r ymarferion yn mynd hyd yn hyn?

Gwaith caled, ond hwyl hefyd. Mae pawb mor gyfeillgar ac mae gweddill y cast a’r tîm cynhyrchu yn gefnogol ac yn gwneud yr ymarferion yn brofiad arbennig. Mae lot o chwerthin a chreadigrwydd mewn un ystafell ac mae’n fraint cael bod yn rhan o hynny.

Un bonws yw bod Sam Ebenezer yn chware rhan fy nhad yn y sioe a dwi yn adnabod Sam ers blynyddoedd mawr – mae e’n gwneud i mi deimlo yn gartrefol iawn ac yn un da am dynnu selfies!

Wyt ti’n edrych mlân?

Dwi’n hynod o gyffrous i gael rhannu Lloergan gyda phawb! Mae’n stori hollol unigryw a chyfoes. Ac mae’r gerddoriaeth yn rili cŵl – mae fy chwaer fawr, Glain, yn genfigennus iawn fy mod i yn cael perfformio caneuon a gyfansoddwyd gan ddau o sêr y sin roc Gymraeg – mae caneuon Griff Lynch a Lewys Wyn yn anhygoel!

Beth allwn ni ddysgwl ar y noson – sut fath o sioe fydd hi?

Gallwch ddisgwyl cerddoriaeth gyfoes a hudol, set drawiadol a llachar a stori hollol arallfydol! Mae’n sioe epic!

Beth arall wyt ti’n edrych mlân i’w weld yn y ’steddfod?

Dwi’n edrych ymlaen i fwynhau popeth ar y Maes gyda fy ffrindiau – bwyta lot gormod o fwyd, crwydro’r stondinau a gwrando ar gerddoriaeth byw. Dwi hefyd wrth fy modd bod yr Eisteddfod yng Ngheredigion – ar garreg y drws!

Hoff atgof eisteddfodol?

Gwylio’r band ‘Diffiniad’ yn perfformio ar lwyfan y maes ym Mae Caerdydd. Mae fy nhad yn aelod o’r band a doeddwn i erioed wedi ei weld yn perfformio yn fyw o’r blaen. Doeddwn i yn methu credu bod cymaint o bobl wedi dod i wylio – roedd yr awyrgylch hollol anhygoel gyda miloedd yn cyd-ganu gyda’r band a roeddwn i ni yn y ffrynt row yn caru pob eiliad!

Oes gen ti tips i rywun sydd heb fod i’r Eisteddfod o’r blaen?

Y peth mwyaf pwysig i’w wneud yn yr Eisteddfod yw cael cymaint o hwyl ag sy’n bosib! Mae cymaint i wneud ar y Maes – fyddwch chi ddim yn diflasu. Ac mae’n gyfle gwych i wneud ychydig bach o ‘celeb spotting’!

Bydd Lloergan – gafodd ei hysgrifennu gan Fflur Dafydd – yn cael ei pherfformio ar nos Wener 29 Gorffennaf yn y pafiliwn mawr. Bachwch eich tocynnau i weld Miri, gweddill y cast a Chôr yr Eisteddfod yn perfformio dan arweiniad Rhys Taylor ar wefan yr Eisteddfod Genedlaethol.