Efallai mai gormodiaith fyddai dweud bod Rhwng Heddiw a Ddoe gan Elgan Philip Davies yn hir ddisgwyliedig, ond mae degawdau ers i Elgan recordio’i ganeuon diwethaf. Yma mae 14 o gyfansoddiadau gwreiddiol, y mwyafrif helaeth yn newydd, ond yn eu plith ddwy gân a gyfansoddwyd ganddo yn yr 1970au.
Un o’r rheini yw ‘Plas-y-Bryniau’, y gân gyntaf i gael ei chwarae ar Radio Cymru pan lansiwyd y gwasanaeth yn Ionawr 1977 gyda rhaglen Hywel Gwynfryn, Helô Bobol!. Dyma fferm ei chwaer a’i gŵr, Dafydd Edwards y tenor enwog, a byddai’n dianc iddo yn y saithdegau cynnar.
Yn wreiddiol o Bontrhydfendigaid, symudodd fel mab i heddwas sawl gwaith gan fynychu chwe ysgol wahanol erbyn iddo gyrraedd tair ar ddeg oed cyn ymgartrefu yn Llanfarian ar ymddeoliad ei dad.
Fel aelod gwreiddiol o Hergest, a ffurfiwyd yn 1971, roedd Elgan yn rhan o gynnwrf cerddorol y cyfnod rhyfeddol hwnnw pan ddaeth diwylliant ieuenctid Cymru i’r amlwg am y tro cyntaf.
Recordiodd yn Rockfield ddwywaith a sawl gwaith yn stiwdio gyntaf Sain yng Ngwernafalau, Llandwrog, ac ymddangosodd ar y rhaglen chwedlonol Disc a Dawn. Roedd hefyd yn rhan o gynhyrchiad hanesyddol gwreiddiol Nia Ben Aur yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin yn 1974. Dwy flynedd yn ddiweddarach, penderfynodd Elgan ymddeol o’r sin roc.
Ar ôl dyddiau Hergest, trodd Elgan ei ysfa greadigol at ysgrifennu, gan gyhoeddi dros hanner cant o lyfrau rhwng 1985 a 2020 ar gyfer darllenwyr ysgolion cynradd ac uwchradd, yn ogystal ag oedolion. Am sawl blwyddyn, bu’n ymwelydd cyson ag ysgolion ledled Cymru yn annog darllenwyr drwy siarad am ei lyfrau ac yn annog awduron ifanc mewn sesiynau Sgwad Sgwennu.
Er iddo adael Hergest ar ddiwedd 1976, parhaodd yr aelodau gwreiddiol i fod yn ffrindiau bore oes, ac ar Rhwng Heddiw a Ddoe daw Elgan, Geraint Davies, Delwyn Siôn a Derec Brown at ei gilydd am y tro cyntaf ers perfformio yng Ngŵyl y Faenol yn Awst 2004. Mae hen ffrindiau eraill yma hefyd: Charli Britton, Caryl Parry Jones, Graham Pritchard, Myfyr Isaac a Rhys Taylor. Rhwng Heddiw a Ddoe yw ymddangosiad olaf Charli Britton ar record.
Mae’r byd heddiw yn dra gwahanol i ddoe gobeithiol y saithdegau ac mae caneuon Rhwng Heddiw a Ddoe yn cofnodi llawer o newidiadau personol, cenedlaethol a rhyngwladol yr hanner can mlynedd diwethaf.
Mae’r lansiad swyddogol yn stondin Siop Inc (801) ar faes yr Eisteddfod am 12 ddydd Llun y 1af o Awst 2022