Cae o haul ger Fferm Penglais

Beth sydd yn y cae ar y bryn uwchlaw Aberystwyth?

Mererid
gan Mererid

Uwchlaw Parc Natur Penglais, mae datblygiad enfawr o baneli solar bron a’i gorffen yn Fferm Penglais.

Pan fydd wedi ei orffen, bydd y cae yn cynhyrchu 25% o holl ddefnydd trydan campws Penglais – fydd yn dda i’r amgylchedd, ond yn help mawr i wneud fflatiau fforddiadwy i fyfyrwyr.

Bydd yn cynhyrchu 550 tunnell o arbedion carbon mewn blwyddyn ac yn arbed £325,000 o gostau trydan. O fewn naw mlynedd, bydd y Brifysgol wedi derbyn y buddsoddiad o £2.9m yn ôl, a gyda phrisiau trydan wedi cynyddu ers y dyluniad gwreiddiol, gall yr arbedion fod yn fwy erbyn hyn.

Y cynllun gwreiddiol

Nid yw’n hawdd gweld maint y cae o’r ffordd i Glarach, ond os ewch i’r cae pêl-droed tu hwnt i Fferm Penglais, gallwch weld pa mor sylweddol yw’r datblygiad yma.

Yr olygfa o faes parcio Fferm Penglais

Dywedodd yr Athro Neil Glasser, Dirprwy Is-ganghellor, Prifysgol Aberystwyth:

“Rydym wrth ein bodd bod y gwaith adeiladu ar y prosiect newydd cyffrous hwn, sy’n adlewyrchu ymrwymiad y Brifysgol i leihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil a lleihau ein hallyriadau tŷ gwydr, yn dechrau.

“Ein huchelgais yw ystâd Brifysgol a fydd yn niwtral o ran carbon erbyn 2030/1 ac mae’r datblygiad solar hwn yn gam pwysig tuag at wireddu hynny. Fodd bynnag, mae llawer i’w wneud o hyd wrth inni fynd i’r afael â rhai o’r heriau sylfaenol y mae cymdeithas yn eu hwynebu a gweithio i ddatgarboneiddio ein heconomi er lles y blaned.”

Mae disgwyl i’r prosiect fod yn garbon niwtral o fewn ychydig flynyddoedd cyntaf ei oes waith, a bydd y gwaith adeiladu ar y safle yn cynnwys elfennau i annog bioamrywiaeth yn y gwrychoedd cyfagos. Unwaith y bydd yn gwbl weithredol, bydd defaid yn parhau i bori’r tir o rhwng y paneli.

Dywedodd Hayley Bristow, Cydlynydd Rhaglen gyda Salix Finance Ltd, cwmni sy’n darparu cyllid ar gyfer mentrau effeithlonrwydd ynni yn y sector gyhoeddus:

“Mae Salix yn falch o gefnogi Prifysgol Aberystwyth i gyflawni’r cam hwn o’u Cynllun Re:Fit, gyda £2.6m o gyllid gan Raglen Gyllido Cymru, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.”

Dywedodd Scott Lutton, Cyfarwyddwr Gweithredu, y Gogledd a’r Alban, Vital Energi:

“Mae Prifysgol Aberystwyth wedi gwneud cynnydd cryf o ran cyrraedd ei thargedau lleihau carbon ac mae’r arae solar hon yn fuddsoddiad sylweddol arall sy’n dangos ei hymroddiad i gyflawni sero-net. Er mai lleihau carbon fu’r prif yrrwr ar gyfer y prosiect hwn, mantais arall defnyddio trydan adnewyddadwy yw y bydd yn insiwleiddio’r Brifysgol rhag y cynnydd ym mhris ynni.”

Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae Prifysgol Aberystwyth wedi lleihau ei hallyriadau CO2 dros 40 y cant ac yn 2019 datganodd argyfwng hinsawdd.

Cwblhaodd y Brifysgol hefyd gytundeb perfformiad ynni gwerth £3m fel rhan o raglen RE:FIT, sy’n cael ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru, er mwyn gwneud adeiladau’n fwy ynni-effeithlon.