Gymanfa Werin yn y Cwm

Dathlu cyfraniad Merêd a Phyllis

Y Ddolen (papur bro)
gan Y Ddolen (papur bro)
poster_cymanfa

Gallwch chi feddwl am ffordd well i ddathlu cyfraniad Meredydd Evans a’i wraig Phyllis yn yr ardal na thrwy noson hwyliog o ganu gwerin?

Roedd Merêd wedi bod yn llywydd a golygydd ffyddlon ar bapur bro Y DDOLEN am flynyddoedd a bysem wedi hoffi cynnal digwyddiad yn agosach at y dyddiad byddai wedi dathlu ei ben-blwydd yn 100 oed ond daeth Covid. Ond eleni gyda Phyllis, ei wraig wedi dathlu ei chanfed pen-blwydd yn Awst daeth cyfle i ni ddathlu cyfraniad y ddau gyda’i gilydd.

Nos Wener yma (14 Hydref) lan yng Nghapel Siloam yng Nghwmystwyth rydym yn cynnal cymanfa werin hwyliog dan arweiniad Bethan Bryn. Y gobaith yw awn i hwyl y canu a chael cyfle hefyd i gydnabod cyfraniad y ddau yn yr ardal.

Rydym yn ffodus fod Trefor Pugh a Jez Danks (ar y ffidil) wedi cytuno i ddod i’n diddanu. Edrychwn ymlaen at berfformiadau’r ddau.

Aled Evans sydd wedi cael y dasg o grynhoi cyfraniad Merêd a Phyllis ac rydym yn hynod falch fod Eluned, eu merch, yn gallu ymuno gyda ni fel llywydd y noson.

Mae croeso cynnes yn aros amdanoch yn y Cwm nos yfory. Mae’r rhaglen yn cynnwys hen ffefrynnau fel Hen feic peni fardding, Moliannwn, Pren ar y bryn a Hiraeth.

£5 yw’r pris mynediad ac mae’n cynnwys paned a chacen ar ddiwedd y gymanfa! Cyfle am glonc a hel atgofion.

Croeso cynnes i’r Cwm nos yfory. Dewch i ganu!