Gŵyl pum punt Aberystwyth

Siopau annibynnol y dre yn cymryd rhan mewn cynllun cenedlaethol

Enfys Medi
gan Enfys Medi
311908583_1795743934095344

Ydych chi wedi gweld y posteri yma yn rhai o siopau Aberystwyth?

Maen nhw’n dangos fod y siop yn rhan o’r ŵyl pum punt sy’n gynllun cenedlaethol i annog mwy o wariant ar ein stryd fawr yn ein siopau annibynnol.

Dywedodd Berith o siop Broc Mor

Mae’r ŵyl pum punt yn ffordd hawdd iawn i’r gymuned gefnogi siopau lleol annibynnol ac wrth wneud hyn mae’r cwsmer yn cael del dda! Mae’r cwsmer a’r busnes ar eu hennill a’r cynllun hefyd yn amlygu pwysigrwydd cefnogi eich busnesau lleol, annibynnol.

Mae’r cynllun yn cael ei redeg dan faner ‘Totally Local’, prosiect a sefydlwyd yn Swydd Efrog yn 2010. Erbyn hyn mae trefi ar draws y Deyrnas Unedig wedi ei ysbrydoli gan y cynllun ac yn mynd ati i ddefnyddio’r adnoddau i hybu gwariant yn eu siopau lleol annibynnol.

Y neges bwysig yw fod arian sy’n cael ei wario mewn siopau lleol annibynnol yn aros yn lleol ac yn rhoi hwb i’r economi.

Mae’r busnesau sy’n cymryd rhan yn cael eu hannog i hysbysebu cynigion gwerth chweil am £5 sy’n esgus da i bobl grwydro eu siopau lleol a dod i wybod mwy am yr hyn sydd gan y siopau yma i gynnig iddynt drwy’r flwyddyn.

Dyma restr o’r siopau sy’n cymryd rhan yng ngŵyl pum punt Aberystwyth eleni a bydd y cynllun yn rhedeg am wythnos arall tan 22 Hydref.

  • Siop y Pethe
  • Iwtopia Deli
  • Polly’s
  • Maeth y Meysydd
  • Belit Deer
  • Bottle & Barrel
  • Dylan’s Den
  • Inkwells
  • Her Dandy Wolf
  • Driftwood Designs
  • Medina
  • Cabin
  • Agnellis
  • Red Vintage Lightning
  • Siop Inc
  • Cariad Dog Groomers
  • Blodau No.21
  • The Book Shop by the Sea
  • Cactws
  • Little Devil’s Cafe

Os cofiwch, nol yn yr haf, lluniodd Lizzie Spikes, Driftwood Design fap arbennig o Siopau Annibynnol Aberystwyth. Mae’r ŵyl yma yn mynd law yn llaw yn berffaith a’r map!

Ewch i grwydro Aberystwyth wythnos yma i ddod i adnabod a chefnogi ein siopau lleol, annibynnol.