Gŵyl Feicio Aberystwyth yn paratoi am ddigwyddiad llwyddiannus

Shelley Childs sydd yn cwrdd a ni i esbonio pam y dylai pawb gymryd rhan yng Ngwyl Feicio Aber

Mererid
gan Mererid

Gŵyl Feicio Aberystwyth yn paratoi am ddigwyddiad llwyddiannus

Mererid

Shelley Childs sydd yn cwrdd a ni i esbonio pam y dylai pawb gymryd rhan yng Ngwyl Feicio Aber

Ar y 4ydd a’r 5ed o Fehefin, bydd Aberystwyth yn gwahodd beicwyr o bob oed i fynd ar gefn eu beic a chymryd rhan. Cawsom gyfle i gael sgwrs gydag un o’r trefnwyr, Shelley Childs am y sialensiau i ddychwelyd y ras wedi ysbaid o ddwy flynedd oherwydd COVID.

Ar y dydd Sadwrn, 4ydd o Fehefin, bydd rasys Criterium o amgylch y dref, gyda ffensys diogelwch i gadw’r ymgeiswyr yn saff. Mae’r cwrs arobryn yn cylchu’r Hen Goleg eiconig o’r 19eg ganrif, y Castell o’r 13eg ganrif, y Pier o Oes Fictoria a hefyd yn picio i ganol y dref ar ddiwrnod sy’n llawn adloniant i bawb.

Mae rhaglen lawn yn amrywio o ferched sydd yn ddechreuwyr, plant, oedolion, a beicwyr proffesiynol

  • 11.55 – Go Race i Ferched
  • 12.30 – Categori D ac E i ferched a bechgyn
  • 13.00 – Categori C i ferched a bechgyn
  • 13.30 – Categori B i ferched a bechgyn
  • 14.15 –  Categori A i ferched a bechgyn
  • 15.00 – Wheels Together Go Ride
  • 15.45 – Rasus 40+ 50+
  • 16.45 – Categori 3 a 4
  • 18.00 – Pencampwriaeth Criterium Cymru – Merched – E/1/2/3/4/J
  • 19.30 – Pencampwriaeth Criterium Cymru – Ras Dynion 16-39

Mae Shelley yma yn esbonio beth arall sydd yn mynd ymlaen: –

Fel mae Shelley yn sôn, ar ôl y digwyddiadau trefol dydd Sadwrn, bydd yn bryd troi i gefn gwlad er mwyn ymlacio.

Mae un o bedwar cwrs yn dibynnu ar eich gallu. P’un a ydych chi’n feiciwr profiadol sydd eisiau her y ‘Cawr’ neu’r ‘Mynach’, neu efallai awydd taith ysgafnach o amgylch Ceredigion ar y ‘Diafol’, byddwch chi’n sicr o un peth – cewch un o’r profiadau seiclo mwyaf trawiadol bosib! Mae’r “Cawr” yn mynd i lawr i Lanbedr Pont Steffan, ond gyda 100 o filltiroedd – mae yn sialens fawr.

Soniodd Shelley hefyd am y siom nad oes modd cynnal y ras lawr o Consti, a hynny oherwydd nad oes caniatâd wedi cael ei ddarparu. Bydd yr Ŵyl eleni yn canolbwyntio ar y ddwy ras graidd gyda nifer o ddigwyddiadau bawb yn y cefndir.

Dydd Sadwrn yr 28ain o Fai, bydd Taith Dywys Taith Dywys deuddeg milltir (“Dewch i Deithio“) yn cychwyn o siop goffi The Hut, yn mynd ar hyd Llwybr Ystwyth i Lanilar ac yn ôl. Dewch â rhywbeth i’w fwyta am bicnic yn Llanilar ger y pwll lle bydd yn aros am hanner awr. Mae’n llwybr prydferth iawn ar hyd yr hen reilffordd a fwy neu lai fflat – dim ond cwpl o fryniau byr.

Dydd Sul y 29ain o Fai, fe fydd Audax yn trafeilio 212km ac yn cychwyn a gorffen o Aberystwyth. Mae angen i chi fod yn brofiadol iawn i allu cymryd rhan. Afan Adventure sydd yn trefnu a bydd y ras yn dechrau o’u lleoliad yn Stad Ddiwydiannol Glanrafon.  Mae’r daith yn mynd drwy Gwm Ystwyth a Rhayadr, ac o amgylch Llanymddyfri gan ddychwelyd dros y mynydd i Dregaron.

Ar y nos Fercher 1af o Fehefin, mae ras wedi ei amseru (time trial) wedi ei noddi gan Statkraft. Mae ras 10 milltir yn mynd o Aberystwyth i Lyn Rheidol ac yn ôl. Mae pob beicwyr yn ymgeisio ar ben ei hun a hynny mewn amseroedd dechrau yn amrywio 1 munud yr un.

Bydd y dydd Iau’r 2il o Fehefin yn Ŵyl y Banc, felly beth am ymuno gyda Reid Deuluol, o lan môr Aberystwyth i Lan yr Afon neu ewch ymlaen i Gapel Bangor, ac yn ôl. Cyfanswm y pellter yn y drefn honno 5.5. Mae’r daith ar Lwybr Beics Rheidol sy’n darparu golygfeydd golygfaol o Afon Rheidol. I gofrestru, cliciwch ar y ddolen ar wefan Sustrans. Mae hon yn daith hamddenol sy’n addas i deuluoedd â phlant a byddwn yn reidio ar gyflymder sy’n addas i bawb. Bydd y daith yn cymryd tua 1 1/2 awr gan gynnwys stop.

Ar ddydd Gwener, y 3ydd o Fehefin, bydd gweithdy arddangos sgiliau BMX yn rhan o Ŵyl Seiclo Aberystwyth. Mewn cydweithrediad gyda Chyngor Tref Aberystwyth, bydd y digwyddiad yn cael ei leoli ym mharc sgrialu Kronberg. Ymunwch a beicwyr profiadol o STAYSTRONG fydd yn cynnal sesiwn sgiliau ac arddangosiad yn y parc rhwng 6.00pm a 8.00pm. Mynediad am Ddim a falle bydd YMWELYDD ARBENNIG yno.

Mae Shelley a gweddill pwyllgor Gŵyl Seiclo Aberystwyth yn ddiolchgar iawn i Gyngor Tref Aberystwyth am y grant o £8,000 sydd wedi cael ei ddarparu ar gyfer yr Ŵyl.

Beth sydd angen yn fwy na dim yw ymgeisiwch a chefnogwyr – felly beth am i chi gymryd rhan?