Gwobr Feddygaeth i Dwynwen

Dwynwen Spinks o Aberystwyth yw enillydd 2022

Mererid
gan Mererid

Nos Fercher, 13eg o Orffennaf 2022, cyflwynodd Dafydd Iwan wobr feddygaeth Ymddiriedolaeth William Salesbury i Dwynwen Spinks.

Bydd trigolion Buarth Aberystwyth yn hynod o falch fod Dwynwen, sydd bellach yn astudio yn yr Ysgol Feddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Rydym yn hynod o falch drosot Dwynwen a mwynha’r dathlu.

Mae Dwynwen wedi gwneud ei marc yng Nghaerdydd yn cyflwyno araith i’r Ysgolion Meddygol Cenedlaethol ynglŷn â phwysigrwydd addysg cyfrwng Cymraeg. Fel cyn-ddisgybl yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth, fe fydd Dwynwen yn gwybod llawer am hyn.

Dyfernir Gwobr Meddygaeth William Salesbury gan Ymddiriedolaeth William Salesbury ar y cyd gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Mae’r wobr yn cydnabod arloesedd prosiect ymchwil sydd wedi ei gyflwyno trwy gyfrwng y Gymraeg, a cyfraniad i weithgareddau cyfredol allgyrsiol trwy gyfrwng y Gymraeg o fewn maes Meddygaeth.

Mae gwobr o £200 hefyd yn cael ei gyflwyno i’r buddugol gan Ymddiriedolaeth William Salesbury.

 

Os ydych chi am gyfrannu i Gronfa William Salesbury – gellir gwneud yma.