Gwobr Chwarae Teg i Padarn United

Cyfarfod Blynyddol Padarn United a chynlluniau ar gyfer 2022-2023

Mererid
gan Mererid
Mererid Boswell

Paul Griffiths, Gareth Slack a Matthew Savage

Daeth yn ddiwedd tymor pêl-droed, ac roedd yn hynod o dda gweld Clwb Pêl-droed Padarn yn ennill tlws chwarae teg Cynghrair Cambrian Tyres.  Y timau eraill o fewn y Gynghrair sydd yn dewis yr enillydd ar sail pa dîm sydd yn chwarae yn deg ar hyd y tymor.

Yn y Cyfarfod Blynyddol a gynhaliwyd ar y 28ain o Fehefin, diolchodd y Cadeirydd, Paul Griffiths, i’r chwaraewyr, y rheolwr Matthew Savage, i’r Pwyllgor, i’r noddwyr ac wrth gwrs i Gyngor Cymuned Llanbadarn a’u trigolion. Diolchwyd i swyddogion y Gynghrair a Chymdeithas Pêl-droed Cymru. Diolchwyd hefyd i deulu Jones Llety Gwyn am gael y cae pêl-droed.

Llongyfarchwyd y rhai a dderbyniodd wobr ar ddiwedd y tymor sef: –

  • Sgoriwr uchaf- James Graham
  • Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn – Liam Thomas
  • Gwirfoddolwr y Flwyddyn – Sion Clifton
  • Dewis y rheolwr o chwaraewr y flwyddyn- Jason Boswell
  • Dewis y chwaraewyr o chwaraewr y flwyddyn -Mathew Savage

Dyma nhw yn derbyn eu gwobrau gan Paul Griffiths y Cadeirydd: –

Diolch enfawr hefyd i’r Gogerddan Arms ac Amanda Jones am fod yn gartref i’r Clwb ar gyfer cyfarfodydd ac ar ôl gemau ar ddydd Sadwrn.

Dywedodd Paul

Mae Clybiau Pêl-Droed yn hynod o bwysig, nid yn unig i iechyd y chwaraewyr, ond mae’n adeiladu cymuned, ac yn dod ac unigolion o bob oed, ac o bob cefndir. Mae’n bwysig ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’w cynnal

Mae’r chwaraewyr yn edrych ymlaen at y tymor newydd ym mis Awst.

Mae’r clwb wedi cael enwebiad am wobr Menter Aberystwyth am waith yn annog y gymuned, a bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi nos Iau, 30ain o Fehefin.

Mae gan y Pwyllgor gynlluniau mawr am 2022-2023 a gobeithio byddwch i gyd am eu cefnogi.