Gwledd o lyfrau newydd am hanes Ceredigion a’i phobl ar gyfer Eisteddfod Genedlaeth 2022!

Gwledd o lyfrau newydd yn cael eu cyhoeddi gan Y Lolfa am hanes Ceredigion a’i phobl

gan Gwenllian Jones
Cardis
Hedyn-Caryl-Lewis

Cyhoeddir hefyd lyfr swmpus am hanes Tregaron gan un o awduron mwyaf toreithiog Cymru, sy’n wreiddiol o Landdewi Brefi, D Ben Rees.

Yn y gyfrol Hanes Tregaron a’r Cyffiniau, mae’r awdur yn cyflwyno rhai o bobl enwog a rhai llai adnabyddus o’r fro, yn cynnwys Ambrose Bebb, Cassie Davies, Joseph Jenkins a llawer iawn mwy. Mae’r gyfrol yn llawn storïau am hanes yr ardal ac yn rhoi sylw teilwng i’r pentrefi cyfagos o Lanilar i Lanfair Clydogau, o Fronnant i Fetws Bledrws.

Un o gewri celfyddydol yr ardal oedd Ogwyn Davies, ac mewn cyfrol hardd, clawr caled o’r enw Bywyd a Gwaith Ogwyn Davies, fe gyflwynir hanes ei fywyd ynghyd â rhai o’i weithiau enwocaf, yn cynnwys lluniau Soar y Mynydd.

Cyhoeddir hefyd nifer o nofelau a llyfrau i blant gan awduron o’r ardal. Yn eu plith ceir nofel newydd gan Heiddwen Tomos, I’r Hen Blant Bach, Hergest gan y nofelydd ditectif Geraint Evans a Dros Ryddid! am brotestio o bob math wedi ei olygu gan Ifan Morgan Jones a Llinos Dafydd.

I blant cyhoeddir y nofel garlamus Cors Caron gan Meleri Wyn James, nofel wych newydd Caryl Lewis, Hedyn, yn ogystal â chyfrol hardd newydd o’r enw Siani Pob Man wedi ei darlunio gan Valériane Leblond. Ac i’r rhai sy’n edrych ymlaen at sioe Na, Nel yn yr Eisteddfod, mae ’na lyfr newydd sbon o’i storïau – Na Nel! Yn Achub y Byd. Mae’r sioe yn y Pafiliwn am 5:30 ar brynhawn Mawrth, 2ail o Awst.

Ceir nifer fawr o ddigwyddiadau i ddathlu’r cyhoeddiadau yma yn ystod wythnos yr Eisteddfod, dyma rhai o’r pigion:

  • Lansiad Bywyd a Gwaith Ogwyn Davies gan Ceri Thomas am 6 o’r gloch ar nos Lun 1af o Awst yng Nghanolfan Rhiannon, ar sgwâr Tregaron
  • Lansiad Hergest gan Geraint Evans ar stondin Y Lolfa ar faes yr Eisteddfod am 2 o’r gloch ar brynhawn Mercher 3ydd o Awst.
  • Sgwrs rhwng Ffion Dafis, awdur Mori a phrif enillydd Llyfr y Flwyddyn 2022, Non Parry, awdur Paid â Bod Ofn ac enillydd categori Ffeithiol Creadigol Llyfr y Flwyddyn 2022 a Carys Eleri, awdur ‘Dod Nôl at fy Nghoed a gyrhaeddodd rhestr fer Ffeithiol Creadigol Llyfr y Flwyddyn 2022 yn trafod eu cyfrolau. Bydd y sgwrs am 4:30 prynhawn dydd Llun 1af o Awst ym Mhabell y Cymdeithasau 2.
  • Ceir hefyd pedwar sesiwn i blant am 3 o’r gloch rhwng dydd Mawrth i ddydd Gwener ym Mhentref Plant gan Caryl Lewis (Hedyn), Valériane Leblond a Morfudd Bevan (Siani Pob Man), Meleri Wyn James (Na, Nel!) a Mared Llwyd (Anturiaethau Mistar Urdd).

Am restr gyflawn o ddigwyddiadau’r Lolfa yn yr Eisteddfod, ewch draw i: https://www.ylolfa.com/Content/Users/Taflen%20Digwyddiadau%20Eisteddfod%20Tregaron%20-%20gwefan.pdf

Bydd y llyfrau wrth gwrs ar gael hefyd yn eich siop lyfrau leol ond am restr gyflawn o lyfrau newydd Y Lolfa, ewch i: https://www.ylolfa.com/newydd