Gweinidog yn agor dangosiad cyntaf ffilm yn adrodd hanes porthladdoedd

Mae Dirprwy Weinidog Cymru dros y Celfyddydau a Chwaraeon wedi lansio ffilm newydd yn adrodd hanesion a bywyd pum tref borthladd yng Nghymru ac Iwerddon.

Prifysgol Aberystwyth
gan Prifysgol Aberystwyth

Dangoswyd am y tro cyntaf yn Amgueddfa Ceredigion yn Aberystwyth, nod y gyfres o wyth ffilm ddogfen fer ac un ffilm hir, Wrth ymyl y Dŵr: Straeon Môr Iwerddon, yw hyrwyddo porthladdoedd Abergwaun, Caergybi a Doc Penfro yng Nghymru, a Phorth Dulyn a Harbwr Rosslare yn Iwerddon, yn ogystal â’r tri llwybr fferi sy’n eu cysylltu.

Cynhyrchiwyd y ffilmiau fel rhan o’r prosiect ‘Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw’, sy’n ymchwilio i hanes a threftadaeth ddiwylliannol, ac yn dangos golygfeydd godidog o dirluniau a bywyd natur Môr Iwerddon ac yn adrodd straeon dynol y cymunedau porthladdoedd.

Yn Abergwaun, mae Gary Jones a Jana Davidson yn sôn am oresgyniadau gan fôr-ladron a byddinoedd Ffrainc, tra bod Hedydd Hughes yn esbonio sut mae hi’n dysgu plant am chwedlau lleol. Yn Harbwr Rosslare, mae’r teulu Todd o Abergwaun yn cwrdd â’u perthnasau Gwyddelig, y Fergusons.

Mae’r hanesydd lleol David James yn rhannu’r stori ryfeddol am sut y daeth mab samurai o Japan i blannu coeden ginkgo yn Noc Penfro, ac mae’r cynghorydd lleol Josh Beynon yn archwilio’r lleoliad dirgel lle adeiladwyd y Mileniwm Falcon ar gyfer Star Wars: The Empire Strikes Back.

Yn Nulyn a Chaergybi, mae barddoniaeth gan Gillian Brownson a Gary Brown yn dathlu cysylltiad canrifoedd oed eu porthladdoedd. Mae’r hanesydd Gareth Huws yn esbonio sut mae olion aneddiadau’r Oes Efydd i’w gweld o hyd yn y dref yn Ynys Môn.

Meddai Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden AS, a ddaeth i ddangosiad cyntaf y ffilm:

“Mae’r prosiect Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw yn amlygu hanes diwylliannol cyfoethog ac amrywiol ein porthladdoedd, yn ogystal â’u bywyd a lliw, trwy’r celfyddydau gweledol, llenyddiaeth a ffilm. Nid yn unig y bydd y prosiect yn cyfoethogi profiad ymwelwyr o bob oed a diddordeb, ond hefyd yn eu hannog i dreulio mwy o amser a gwario mwy o arian yn y cymunedau hyn.

“Mae ymwneud â chymunedau lleol a chynyddu ymwybyddiaeth o dreftadaeth porthladdoedd trwy drafodaethau panel, gweithdai creadigol a sgyrsiau yn gyfle gwych i ennyn cefnogaeth trigolion lleol gan sicrhau bod cydbwysedd gofalus sy’n gweithio i’r cymunedau lleol yn ogystal ag ymwelwyr o bob rhan o ardal Môr Iwerddon a thu hwnt.

“Rwy’n falch iawn o gael lansio’r ffilm a fydd yn amlygu ac yn dathlu’r gorau sydd gan bob cymuned i’w gynnig i ddarpar ymwelwyr a defnyddwyr y porthladdoedd fferi, ond sydd hefyd yn dal natur amlieithog ac amlddiwylliannol y porthladdoedd a’r ardaloedd cyfagos.”

Dywedodd yr Athro Peter Merriman, arweinydd tîm y prosiect yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth:

“Rydym wrth ein boddau bod y Gweinidog wedi lansio ein ffilmiau, sy’n portreadu treftadaeth naturiol a ddiwylliannol gyfoethog y trefi porthladd hyn yng Nghymru ac Iwerddon. Dyma ffrwyth gwaith bron i dair blynedd gan dîm y prosiect a’n partneriaid cynhyrchu Mother Goose, a gobeithiwn y byddan nhw’n ysbrydoli ymwelwyr i dreulio mwy o amser yn y porthladdoedd ar eu ffordd drwyddyn nhw.”

Bydd y ffilmiau yn ffurfio rhan o ymgyrch dwristiaeth ehangach i godi ymwybyddiaeth am dreftadaeth arfordirol a morwrol helaeth y pum porthladd a’u cymunedau.

Dywedodd arweinydd y prosiect, yr Athro Claire Connolly o Goleg Prifysgol Cork:

“Mae’n bleser gweld cymaint o ddelweddau a straeon o Rosslare, Dulyn, Caergybi, Abergwaun a Doc Penfro ar y sgrin. Drwy’r ffilmiau yma, mae bywydau a diwylliannau’r trefi porthladd yn dod yn fyw a gyda’i gilydd maen nhw’n cynnig gwahoddiad estynedig i aros yn y mannau chwedlonol hyn.”

Mae Amgueddfa Ceredigion hefyd yn cynnal arddangosfa gelf deithiol yn edrych ar hanes arfordirol cyfoethog a threftadaeth cymunedau’r porthladdoedd.

Dros y misoedd nesaf, bydd y ffilmiau’n cael eu dangos o amgylch Cymru ac Iwerddon, ac yna’n cael eu rhyddhau’n gyffredinol er mwyn i’r cymunedau lleol allu hyrwyddo eu hardaloedd eu hunain.

Ariennir Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop drwy Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru, ac mae’n gweithredu ar draws pedwar sefydliad yn Iwerddon a Chymru, yn cynnwys Coleg Prifysgol Cork, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Cymru Drindod Dewi Sant a Chyngor Sir Wexford.

Arweinir prosiect y ffilmiau gan dîm yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth.