Goleuo’r fro i ddangos cefnogaeth i Wcráin

Liw nos, fe welwch oleuadau glas a melyn yn goleuo rhai o atyniadau mwyaf trawiadol ardal Cwmystwyth a Phontarfynach.

Megan Lewis
gan Megan Lewis
Eglwys yr Hafod
Pontarfynach

Criw bach fu wrth y gwaith, sef Keith Hicks o Gwmystwyth ac Alun, Shan a Dylan o Dyncastell, Pontarfynach.

“Syniad dros baned o de oedd hyn, ac yn aml iawn, rheiny yw’r syniadau gorau,” meddai Alun Jenkins a esboniodd iddynt fynd ati i oleuo pontydd Pontarfynach a’r Bwa yng Nghwmystwyth yn gyntaf, cyn troi at Eglwys yr Hafod wedyn.

“Roeddem yn trafod y sefyllfa erchyll yn Wcráin, ac yn ei deimlo i’r byw, ac yn meddwl y byddai hyn yn ffordd dda o ddangos ein cefnogaeth.”

Esboniodd fod gosod y goleuadau yn eu lle yn dipyn o dasg er mwyn sicrhau bod y glas a’r melyn yn plethu i’w gilydd yn gywrain.

“Ni’n falch iawn gyda’i edrychiad a ni methu credu’r ymateb chwaith,” meddai Alun gan esbonio fod rhai cannoedd wedi ‘hoffi’ a ‘rhannu’ y lluniau ar Facebook.

“Ni’n ddiolchgar iawn i bawb a roddodd eu caniatâd i ni wneud y gwaith. Er mai rhywbeth syml oedd e, mae wedi creu argraff fawr, a ni’n falch iawn o allu dangos ein cefnogaeth.”

1 sylw

Mae’r sylwadau wedi cau.