Ar ôl ennill cytundeb gyda chyhoeddwyr byd-eang Macmillan, mae’r awdures a’r sgriptiwr Caryl Lewis ar fin cyhoeddi ei nofel Hedyn, a hynny yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg.
Mae Caryl yn wreiddiol o Ddihewyd ac aeth i Ysgol Uwchradd Aberaeron, ac wrth gwrs – Prifysgol Aberystwyth yn ogystal â Phrifysgol Durham. Er ei bod wedi cyhoeddi nifer o nofelau eraill, dyma nofel gyntaf Caryl ar gyfer plant 9 i 13 oed.
Dyma’r nofel gyntaf Gymraeg i gynnwys cymeriad byddar. Derbyniodd Gracie, ffrind gorau Marty (y prif gymeriad) ddiagnosis nam ar ei chlyw pan oedd hi tua thair oed.
Meddai Caryl Lewis:
“Mae hi’n bwysig iawn i blant o bob cefndir a phlant sy’n wynebu heriau penodol gael gweld eu hunain mewn llyfrau, a bod y gynrychiolaeth honno yn grwn ac yn realistig. Mae Gracie yn rhan annatod o’r stori – yn gymeriad cryf a doniol sydd hefyd yn cael pyliau o ddiffyg hyder, fel pob plentyn arall.”
Nofel ddoniol, anghyffredin, sy’n ysbrydoli a hefyd yn codi pynciau dwys, mae Hedyn yn stori am wireddu breuddwydion.
Cyhoeddwyd Hedyn ar yr un diwrnod â Seed, y fersiwn Saesneg.
Dywedodd Meinir Wyn Edwards, addasydd y nofel:
“Mae Hedyn yn antur chwareus, twymgalon ar gyfer plant Cyfnod Allweddol 2/3, sy’n pontio oed cynradd ac uwchradd. Roedd addasu’r nofel o’r Saesneg yn her, yn bleser ac yn fraint, ac ro’n i wrth fy modd yn cydweithio â Caryl a dysgu rhywfaint am y broses olygu mewn gwasg enfawr fel Macmillan. Mae’n stori hudolus gall plant ac oedolion ymgolli’n llwyr ynddi ac mae’n aros yn y cof am amser hir ar ôl gorffen ei darllen.”
Mae Hedyn yn mynd â’r darllenwyr i fyd Marty a’i dad-cu. Does ganddyn nhw ddim llawer, ond mae gan ei fam lawer gormod – mae’n cadw popeth, a’r tŷ yn orlawn o annibendod o stwff diangen. Mae Marty yn ceisio edrych ar ei hôl hi, ond mae’n mwynhau dianc o’r tŷ i hafan rhandir Tad-cu.
Ar ei ben-blwydd, mae Marty yn derbyn hedyn yn anrheg gan ei dad-cu, hedyn hudol. Nid yw Tad-cu wedi bod mor gyffrous ers iddo ddyfeisio’r crafwr pen ôl yn 2000 neu ers iddo feddwl iddo lwyddo i greu tanwydd arbennig o ddail rhiwbob! Mae gan Tad-cu gynllwyn sy’n ymwneud â dymuniadau, byd y dychymyg a thaith anarferol i’r ddau a Gracie.
Meddai Caryl Lewis:
“Nofel am bosibilrwydd diddiwedd y byd, a phŵer hudol ac ymarferol y dychymyg yw hon. Rwy’n gobeithio bydd y nofel yn annog plant a’u hatgoffa bod y byd, er gwaethaf digwyddiadau erchyll diweddar, yn lle llawen a rhyfeddol i fyw ynddo.”
Mae Hedyn gan Caryl Lewis (Addasiad Meinir Wyn Edwards) ar gael nawr yn eich siop lyfrau leol neu ar Gwales (£7.99, Y Lolfa).