Gareth yn lansio Sŵn y Gwynt Sy’n Chwythu

Lansio arddangosfa yn Arad Goch yn seiliedig ar gerdd enwog J. Kitchener Davies

Mererid
gan Mererid

Nos Wener, 10fed o Fehefin 2022, roedd lansiad casgliad arbennig o arlunwaith a chyfrol i gyd-fynd a’r arddangosfa yn Arad Goch ar Stryd Y Baddon yn Aberystwyth.

Mae Gareth Owen yn byw yn Aberystwyth ers blynyddoedd, ond yn wreiddiol o Lanuwchllyn ger Y Bala.

Ddiwedd Chwefror 2020, cyn cyfnod COVID, lansiodd Gareth gasgliad o Aberystwyth “drwy lygaid eraill”

Morlan

Arddangosfa artist o Aberystwyth “drwy lygaid eraill”

Mererid

Canolfan y Morlan yn orlawn nos Wener yr 28ain o Chwefror ar gyfer lansiad arddangosfa Gareth Owen

Y tro yma, Canolfan Treftadaeth y Bala sydd wedi gwahodd Gareth i ymateb yn greadigol i’r gerdd ‘Sŵn y Gwynt sy’n Chwythu’ gan J. Kitchener Davies.

Yn bresennol yn y noson (ac yn y llun uchod), roedd Manon Rhys, un o ferched Kitchener Davies, a T. James Jones, a dau o or-wyrion Kitchener Davies, Hopcyn a Martha, gyda Gareth Owen yr arlunydd.

Elwyn Jones, cyn-Brif Weithredwr y Cyngor Llyfrau a agorodd yr arddangosfa sydd hefyd yn y llun.

Gwasg Carreg Gwalch sydd yn cyhoeddi’r gyfrol “Sŵn y Gwynt Sy’n Chwythu” sydd wedi ei chynllunio i gyd-fynd ag arddangosfa ac mae’r gyfrol ar gael yn eich siop lyfrau leol neu ar Gwales am fargen o £5 am 74 tudalen.

Llongyfarchiadau mawr i Gareth ac ewch draw i Arad Goch i weld y gwaith.