Garddio er lles iechyd meddwl

Beth am ymuno a chriw o wirfoddolwyr i arddio ger pont Trefechan?

Mererid
gan Mererid

Menter newydd Bwyd Dros Ben Aberystwyth (Aberystwyth Food Surplus) yw sesiynau garddio wythnosol ger pont Trefechan.

Bydd rhai ohonoch yn gwybod am y gornel rhwng Dan Dre (Mill Street) a Stryd y Bont.

Mae’r fenter yn rhan o gydweithio gydag elusen Mind Aberystwyth, sydd yn darparu cefnogaeth i rai gydag iechyd meddwl, ac yn annog gweithgaredd sydd yn llesol i lesiant.

Byddant yn cwrdd yng ngardd Mind ger pont Trefechan bob dydd Mawrth o 1.30 y prynhawn.

Dywed Heather o elusen Bwyd Dros Ben Aberystwyth:

Mae ymchwil yn dangos bod garddio yn hwb gwirioneddol i iechyd corfforol a meddyliol. Nid yn unig hynny, ond mae tyfu eich bwyd eich hun yn ffordd wych o wneud eich rhan dros yr argyfwng hinsawdd.

Ein bwriad yw trawsnewid yr ardd gan nad yw’n cael ei arddio’n aml a’i wneud yn ofod cymunedol bywiog. Byddwn yn dechrau drwy glirio’r ardal i baratoi i blannu yn y Gwanwyn a thrafod ein gweledigaeth ar gyfer yr ardd.

Dywedodd y Cynghorydd lleol Endaf Edwards

Mae’n ardderchog i weld mannau gwastraff yn Aberystwyth yn cael eu gwella. Diolch i Aberystwyth Food Surplus a Mind Aberystwyth am ymgymryd â’r gwaith yma gan obeithio y bydd nifer o wirfoddolwyr yn mynychu. Rwy’n croesawu’r datblygiad yn fawr.

Mae mynediad am ddim, ond peidiwch â mynychu os ydych yn dangos unrhyw arwyddion o Covid neu ddim yn teimlo’n dda.

Bydd rhai ohonoch wedi dilyn hanes Hannah sydd wedi bod yn garddio darn ger y Castell dros y cyfnod clo a gallwch ddarllen ei hanes drwy’r linc yma.

Gwaith caled Hannah ger parc y Castell

Mae gan Mind Aberystwyth nifer o weithgareddau eraill ar gyfer gwella iechyd meddwl a gellir cael manylion ar y wefan yma. Ymunwch yn eu gweithgaredd – arlein neu yn y swyddfa newydd yn y Cambria ger yr Hen Goleg.