Dau frawd o Aber yn ennill prif wobr Her yr Awr Fawr

Adeiladu robot ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol

Maldwyn Pryse
gan Maldwyn Pryse
DSC00721

Nigel Hardy o Adran Cyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth yn cyflwyno’r wobr gyntaf i Iago a Llifon a gydweithiodd yn llwyddiannus iawn i gyflawni’r her.

Mae’r gystadleuaeth ‘Twrch mewn Tiwb’ wastad yn boblogaidd ac yn gyfle da i ennill gwobrau hael. Mae’n cael ei threfnu gan Adran Cyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth yn y pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mae angen dychymyg dyfeisgar, sgiliau ymarferol a’r gallu i weithio fel tîm i gyflawni’r dasg o adeiladu robot (nid rocet!) i ddringo’r beipen lyfn. Dydd Iau, 4 Awst, Iago a Llifon Jones o Aberystwyth, oedd yn fuddugol yn Nhregaron!

Llongyfarchiadau mawr i’r brodyr Jones!