Yr Hwb yn ffarwelio gyda Dylan a Rhian

10 mlynedd o gyfraniad i’r gymuned gan bâr gweithgar lleol.

Mererid
gan Mererid

Cyfraniad arbennig i gymuned arbennig. Dyna oedd neges gwobrwyo Dylan a Rhian Jones am eu cyfraniad i Fforwm Cymuned Penparcau.

Mae Rhian wedi bod yn arwain Caffi Gwenallt, gan sicrhau ansawdd a pharch i’r gwirfoddolwyr.

Mae Dylan wedi bod yn Gadeirydd y Fforwm ers y dechrau, ac wedi cyflawni nifer o dasgau gwirfoddol yn ei gyfnod yn yr “Hwb”. Fel cyn-blismon, roedd Dylan yn gwybod sut i roi trefn ar bethau.

Hanes Fforwm Cymuned Penparcau

Vaughan Gethin yn agor y swyddfa yn Chwefror 2014

Mae’r bwysig cofio mai yn 2012 y penderfynodd Llywodraeth Cymru ddiddymu statws Cymunedau’n Gyntaf i ardaloedd Penparcau a Thregaron.

Roedd cymuned Penparcau yn awyddus i gadw’r gweithgaredd a fu’n rhan o’r statws yma, ac fe gynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ym Mhlas Antaron, gan ddewis Dylan i lywio’r corff newydd.

Cyngor Tref Aberystwyth oedd yn ariannu’r swyddfa ger siop y cigydd, gyda’r Gymdeithas Gofal yn ariannu swydd Bryn Jones y cydlynydd.

Bryn a Rhian a defrib 3rd Avenue

Cafodd Bryn, gyda chefnogaeth Dylan a gweddill y pwyllgor lwyddiant sylweddol, ac mewn rhai blynyddoedd, symudwyd i’r hen Glwb Bocsio gan ffurfio “yr Hwb”.

Caffi Gwenallt

George Barrett yn cyflwyno blodau i Rhian

Fel rhan o gyllid People’s Health Trust, adeiladwyd estyniad i’r Clwb Bocsio, a rhan bwysig o hwn oedd caffi cymunedol. Enwyd y caffi ar ôl y bardd lleol, Gwenallt. Rhian oedd yn bennaf gyfrifol am sicrhau marc ansawdd 5, a’i fod yn le croesawus i’r cwsmeriaid a’r gwirfoddolwyr.

Mae’n leoliad gyda chymaint o weithgareddau – bydd colled fawr heb Rhian a Dylan i roi cyfeiriad, ond rwy’n siŵr byddant yn parhau yn gefnogol iawn.

Prysurdeb Fforwm Penparcau

Mererid

Mae Fforwm Cymunedol Penparcau yn mynd o nerth i nerth gyda nifer o ddigwyddiadau newydd yn 2020

Pwy yw’r Cadeirydd nesaf?

Fe fydd darllenwyr yr Angor yn ymwybodol fod Kelvin Jones wedi cymryd yr awenau. Dywedodd fel rhan o erthygl yr Angor: –

Yn bersonol, rwy’n gweld yr Hwb fel ased a man cyfarfod mawr ei angen ar gyfer trigolion Penparcau a hoffwn feddwl amdano fel “siop un siop” cymaint. Os na allwn ni eich helpu, fe allwn eich pwyntio i gyfeiriad y rhieni a all. Gyda thîm cryf bellach ar waith, ynghyd â grŵp o wirfoddolwyr gwych, mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair.

Am fwy o fanylion – ewch i https://penparcau.cymru/ neu dudalen Facebook https://www.facebook.com/PenparcauCommunityForum/