Ffair Fusnes Ysgol Tal-y-bont

Stori a blant ysgol gynradd Tal-y-bont yn cael profiad ymarferol o gynnal ffair fusnes yn y pentref

gan Medi James


Ces brynhawn wrth fy modd yn dychwelyd i Neuadd Goffa Tal-y-bont wythnos diwethaf i Ffair Fusnes. Ffair eithaf gwahanol a mentrus wedi ei threfnu gan blant blwyddyn 6 Ysgol Tal-y-bont ynghyd a’r pennaeth Hefin Jones. Fe gafodd y plant, y stondinwyr, y criw paned a’r mynychwyr dair awr ddifyr ar brynhawn Gwener.

Roedd y plant yn rhedeg dwy stondin, cacennau, losin a nwyddau bychain tra roedd busnesau bach lleol, sawl un ohonynt yn rhieni i blant yr ysgol, yn cynnal stondinau eraill. Y nwyddau hynny yn amrywio: rhaffau winwns, llysiau, lluniau a phosteri wedi eu hargraffu’n gain, caws halwmi, mêl, crysau chwys yr ysgol wedi eu hargraffu’n lleol, llaeth teulu Jenkins a chynnyrch lledr o danerdy bach lleol. Roedd y bag llaw croen eog yn arbennig iawn.

Mae cwmni Ceirios, dros shetin yr ardd o’r ysgol, yn argraffu crysau chwys lliwgar i’r ysgol. Un arall sy’n byw ger cae’r ysgol ydy Non a’i chwmni Nwyddau Noni, posteri a chardiau wedi ei llunio’n gain gyda dywediadau ac ambell linell o hen gerdd. Mae cwmni Teg yn grŵp Cynhyrchwyr Bwyd Adfywiol Ceredigion wedi ei lleoli yn Llety Llwyd ar gyrion y pentref a’i bwyd yn cynnwys llysiau tymhorol, wyau, caws a ffyj sawl blas.

Mae llaeth teulu Jenkins, sydd â pheiriant  gwerthu yn Aberystwyth yn ennill ei blwy. Roedd yn dda cael gwasanaeth cownter gan Charlie blwyddyn 6 oedd yn gwybod popeth am y broses o gynhyrchu a magu gwartheg gan ei fod yn barod yn cynorthwyo ar fferm Jenkins, Cerrigcaranau. Un arall blwyddyn 6 oedd Edith yn gwerthu mêl ei mam Mêl Pur Cymreig ac mewn cystadleuaeth frwd ymhen arall y bwrdd  a’i mam-gu Ann Ovens. Dywedodd un fam ifanc wrthyf ei bod newydd ddod o stondin Beauty with Casey yn Nerwenlas a’r ddwy wedi arfer sefyll wrth giât yr ysgol yn aros am eu plant y naill yn adnabod dim o’r llall.

Roedd y prynhawn felly nid yn unig yn gyfle i rieni ddod i adnabod ei gilydd ond yn gyfle gwych i blant 10/11oed ddod i wybod mwy am redeg busnes, gorfod gweini gyda gwen tu ôl i’w cownter, delio ag arian a chyfri newid cywir.