Etholiad ar y gorwel

Cofiwch fod rhai 16 ac 17 mlwydd oed yn gymwys i bleidleisio y tro yma

Mererid
gan Mererid
Cyngor Sir Ceredigion

Ar ddydd Iau 5 Mai, byddwch yn cael dweud eu dweud am bwy fydd yn eich cynrychioli ar y Cyngor Sir, Cyngor Tref neu Gyngor Cymuned.

Mae’r dyddiad cau i gofrestru i bleidleisio mewn ychydig wythnosau, ac mae Cyngor Sir Ceredigion am annog trigolion i wneud yn siŵr eu bod wedi cofrestru mewn pryd.

Os ydych chi wedi cael eich pen-blwydd yn 16 oed neu wedi symud cartref yn ddiweddar, mae’n arbennig o bwysig eich bod yn gwneud yn siŵr eich bod wedi cofrestru i bleidleisio yn gywir.

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yw hanner nos ar 14 Ebrill. Gallwch wneud cais ar-lein yn gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio. Mae’n cymryd llai na pum munud i’w gwblhau.

Os nad ydych am bleidleisio’n bersonol, gallwch gofrestru ar gyfer pleidlais bost hyd at 5:00pm ddydd Mawrth 19 Ebrill. Fel arall, ar gyfer pleidlais drwy ddirprwy gallwch wneud cais tan 5:00pm ddydd Mawrth 26 Ebrill.

Dywedodd Eifion Evans, Swyddog Canlyniadau Ceredigion:

“Gyda dim ond pythefnos i fynd, nid oes gennych lawer o amser i sicrhau y gallwch gymryd rhan yn yr etholiadau lleol. Mae’r etholiadau hyn yn gyfle pwysig i ddweud eich dweud am bwy sy’n eich cynrychioli ar faterion sy’n cael effaith uniongyrchol ar fywyd beunyddiol yma yng Ngheredigion. Er mwyn pleidleisio yn yr etholiadau, rhaid i drigolion fod ar y gofrestr etholiadol. Felly os na fyddwch wedi cofrestru erbyn 14 Ebrill, ni fyddwch yn gallu cymryd rhan.”

Cofiwch hefyd os ydych chi yn meddwl sefyll mai’r 4ydd o Ebrill yw’r dyddiad cau i gyflwyno eich enwebiad.

Os oeddech wedi cofrestru i bleidleisio yn yr etholiad diwethaf ac nad yw eich manylion wedi newid, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth. Os oes unrhyw amheuaeth, gallwch gadarnhau drwy gysylltu â Gwasanaethau Etholiadol Ceredigion ar 01545 572032 neu electoralservices@ceredigion.gov.uk

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen we y Cyngor Sir: www.ceredigion.gov.uk/pleidleiswyr