Diwedd cyfnod i T. J. Davies a’i Fab

Amser cau i siop eiconig T. J. Davies gyda sêl arbennig.

gan Angharad Davies

Ar ôl 74 o flynyddoedd llwyddiannus ym myd busnes mae T. J. Davies a’i Fab wedi penderfynu ymddeol.

I ddathlu, mae Sêl Ymddeoliad yn cael ei chynnal ar hyn o bryd yn ein siop yn Aberystwyth.

Mae prisiau gemwaith a llestri dethol wedi’u gostwng, gyda rhai eitemau hyd at hanner pris.

Bydd y sêl yn cynnwys llawer o eitemau unigryw sydd yn ein siop ac nid ar-lein ar ein gwefan.

Bydd  Telerau ac Amodau arbennig yn berthnasol a byddant yn cael eu harddangos yn glir yn ein siop.

Ar ran pawb yn T. J. Davies a’i Fab, hoffem gymryd y cyfle hwn i ddiolch i chi i gyd am eich cefnogaeth a’ch teyrngarwch ar hyd y blynyddoedd.