Disgo llawn ym Mhenparcau

Clwb Pêl-droed Penparcau yn llawn ar gyfer disgo Calan Gaeaf

Mererid
gan Mererid

Yng Nghlwb Pêl-droed Penparcau (Min-y-Ddol) ar y 29ain o Hydref, cynhaliwyd disgo Calan Gaeaf prysuraf Ceredigion.

Syniad ac ymdrech y Cynghorydd Carl Worrall oedd y noson, a chafodd nifer helaeth o gyfraniadau tuag at ddanteithion y plant, diodydd ysgafn, creision, cŵn poeth a gwobrau i’r enillwyr.

Ond roedd pawb yn enillwyr gan fod cymaint o bobl yno – bu raid i nifer fwynhau’r cyflwyniad ardderchog tu fas gan Jon Evans.

Hoffai Carl ddiolch i’r holl noddwyr – sydd yn llawer llawer rhy niferus i’w enwi gan gynnwys SY23 (The Courtyard), CKs, Bookers, Costa Coffee, Llew Du Bow Street, Riverside Garden Services, Alison Thomas, Megan Jones Roberts, Roger Thomas, Roma Morgan, Aled & Donna Jones, Paul Hill (Garej Delfryn), Safehands, Martin & Julie Thomas, Lisa & Gareth Foster Edwards, Jac Wyn, Kerry Ferguson ac wrth gwrs, pwyllgor Tîm Pêl-droed Penparcau a roddodd y lleoliad am ddim. (Ymddiheuriad i unrhyw un gafodd ei anghofio).

Beirniadwyd y gwisgoedd gan y dirprwy Faer, y Cynghorydd Kerry Ferguson.

Mae Carl yn awyddus i sicrhau fod digwyddiadau fel hyn yn cael cefnogaeth ym mhob rhan o bentref Penparcau. Da iawn ti Carl.

Gwen, Carl a Mererid