Y DDOLEN Mawrth 2022

Pwy yw enillwyr Eisteddfod Y DDOLEN?

Y Ddolen (papur bro)
gan Y Ddolen (papur bro)
274868629_480075966953726

Y DDOLEN Mawrth 2022

Mi fydd yn rhaid i chi brynu eich copi er mwyn darganfod buddugwyr Eisteddfod y DDOLEN 2022! Cyhoeddir y gerdd ysgafn fuddugol sy’n dweud stori hen gwrci lliwgar Penbwlchheble! Cewch fynd am dro yn straeon buddugol disgyblion blwyddyn 5 a 6 ac adolygiad o fwyty newydd yr Athro yn Aberystwyth enillodd yr erthygl addas i bapur bro.

Yn ogystal â chynnyrch yr Eisteddfod, mae hwn yn rhifyn llawn dop 32 tudalen!

  • Hynt a helynt yr ysgolion lleol
  • Newyddion o’r pentrefi prysur
  • Dod i wybod mwy am waith Simon Warburton o Moreia
  • Aros i feddwl gan Beti Griffiths
  • Sioe Llanilar – newyddion cyffrous!
  • Cornel y Beirdd
  • Tymor y Cynghorwyr Sir a chyfweliad gydag Alun Lloyd Jones sy’n ymddeol eleni.
  • Nodiadau Natur gan Ann M. Davies ac Ian Sant (ffotograffydd)
  • Dathlu Gŵyl Dewi – atgofion gan drigolion yr ardal
  • O’r Gegin gan Mirain Griffiths
  • Croesair gan Siân Lewis

Gobeithio y gwnewch fwynhau’r arlwy!

Os hoffech gefnogi papur bro Y DDOLEN rydym wrthi ar hyn o bryd yn casglu ar gyfer Cyfeillion y DDOLEN: £5 am y flwyddyn, a thynnir gwobrau o’r het yn fisol. Cysylltwch â ni drwy ebost ar y.ddolen@gmail.com am fanylion sut i ymaelodi.