Y DDDOLEN – ’Steddfod

Mae’r criw golygyddol wedi cynhyrchu rhifyn arbennig i groesawu’r Eisteddfod i’r ardal.

Y Ddolen (papur bro)
gan Y Ddolen (papur bro)
296220594_730464228225308

Papur Bro Ystwyth ac Wyre yn mynd i hwyl yr Ŵyl!

Ydi mae’r ’Steddfod wedi glanio ar stepen ein drws eleni a rhaid oedd cymryd y cyfle i nodi’r achlysur

. Wedi’r cyfan mae tri deg mlynedd ers ymweliad diwethaf y Genedlaethol a’r Sir!

Ni wedi cynhyrchu rhifyn arbennig 44 Tudalen! Ie, chi’n eitha reit – ma hwn yn rhifyn swmpus, llawn dop o erthyglau diddorol ein cyfranogwyr selog o fis i fis a nifer o erthyglau ychwanegol difyr! Rhywbeth at ddant pawb, ein darllenwyr misol a’n ffrindiau o bob cwr o Gymru.

Beth sydd ynddo fe, dwi’n clywed chi’n gofyn?

  • Newyddion o’r pentrefi
  • Hanes y Sioe Fawr
  • Nodiadau Natur gan Ann M. Davies a’r ffotograffydd Ian Sant
  • Aros i Feddwl gan Beti Griffiths
  • Cornel y Beirdd gan Mari B. Morgan
  • Croesair Eisteddfod gan Sian Lewis
  • Colofn Coginio – rysáit addas i’r garafán!!
  • Croeso cynnes cymunedau Ceredigion gan John Gwynn Jones
  • Llun arbennig i’w liwio gan yr artist Rhiannon Roberts
  • Hanesion Pobl yr Eisteddfod – beth sydd ’mlan gyda phobl yr ardal wythnos yma.
  • Atgofion Eisteddfodol
  • Dewch i wybod mwy am Delynau Derwent
  • Y 10 lle gorau i ymweld â hwy ym mro Y DDOLEN
  • Anturiaethau’r Swistir gan Alwena Hughes Moakes
  • Beirdd y Fro gan Geraint Lewis
  • Enillwyr Rhuban Glas Ardal y DDOLEN gan Aled Evans
  • Phyllis Kinney yn 100 oed gan Aled Evans

Yng nghanol y papur mae map arbennig o’r ardal a gynhyrchwyd i ddathlu pen-blwydd 40 Y DDOLEN ychydig flynyddoedd yn ôl gan yr artist Valeriane Leblond. Mae’n werth ei weld!

Wir i chi’n mae’n rhifyn llawn dop a bargen am £1.

Pobl leol, cewch afael ar eich copi yn y siopau arferol ond ffrindiau o bell, cewch afael ar gopi ar stondin y papurau bro neu siop Inc ar faes yr Eisteddfod.

Yn ôl un o’n darllenwyr ffyddlon, Iona Mason…

Llawn dop – werth sawl punt – nid dim ond un

Rydym ni wedi mwynhau cynhyrchu’r papur, gobeithio byddwch chi’n mwynhau ei ddarllen.