Dathlu hanes Cymry enwog yng ngwrthryfel Iwerddon

Cynhadledd lwyddiannus gan Fforwm Hanes Cymru yn Aberystwyth

Mererid
gan Mererid

Y Drwm yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru oedd cartref Cynhadledd flynyddol Fforwm Hanes Cymru ar ddydd Sadwrn y 17eg o Fedi 2022.

Cadeiriwyd y diwrnod gan Bob Morris, a thema’r dydd oedd y cysylltiad rhwng Cymru ac Iwerddon.

Agorwyd yn y bore gyda Keith Bush yn adrodd hanes y ddau Gymro a fu yn amddiffyn Roger Casement yn 1916 yn ei achos llys enwog.

Keith Bush

Yr ail araith oedd gan Dewi Davies o Gwmtirmynach ynglŷn a’r unigolion a fu’n garcharorion yng ngwersyll Frongoch yn dilyn gwrthryfel 1916, a dylanwad yr unigolion yma ar Iwerddon.

Dewi Davies a hanes gwersyll Frongoch

Lyn Ebeneser oedd yr areithiwr olaf, un sydd â chysylltiad agos gydag Iwerddon ac wedi ymddiddori yn fawr yn hanes y wlad.

Roedd y digwyddiad ar y cyd gyda Chyfeillion Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a diolch enfawr iddynt am eu cefnogaeth gyda’r trefniadau.

Pwy yw Fforwm Hanes Cymru?

Sefydlwyd y Fforwm mewn cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd ar ddydd Mawrth 3 Awst 1999, ym Mhabell y Cymdeithasau ar faes Prifwyl Môn. Roedd hynny mewn ymateb i alwad gan gynrychiolwyr nifer o Gymdeithasau Hanesyddol ac Ymddiriedolaethau Treftadaeth oedd yn bresennol, am un sefydliad i gysylltu ynghyd y gwahanol gymdeithasau yng Nghymru sydd yn ymwneud â’i hanes a’i threftadaeth. Ystyrir y Fforwm felly fel corff sy’n gweithredu fel ambarél dros y cymdeithasau hynny sydd wedi ymuno â’r Fforwm ac yn gyfrwng i rannu gwybodaeth am weithgareddau gaiff eu cynnal ganddynt.

Am wybodaeth bellach – dilynwch y Fforwm ar Facebook.