Pen-blwydd Hapus Planet

Cylchgrawn Planet, sydd yn cael ei gyhoeddi yn Aberystwyth yn dathlu ei ben-blwydd yn 50 yn 2020.

Mererid
gan Mererid

Na. Nid camdreiglo dathliad o ben-blwydd y blaned sydd yma, ond dathlu 50 mlynedd o gylchgrawn Planet: the Welsh Internationalist, a gyhoeddir yn Aberystwyth.

Cyhoedda Planet erthyglau, gwaith celf a ffotograffiaeth o ansawdd uchel gan ffigurau adnabyddus iawn. Dros y blynyddoedd, cyfrannodd awduron fel R.S. Thomas, Jan Morris, Raymond Williams, Chinua Achebe, Menna Elfyn, Leo Abse, Gwynfor Evans, Mererid Hopwood a Stevie Davies at Planet. Mae’n ymdrin â phynciau fel gwleidyddiaeth, y celfyddydau, llenyddiaeth, digwyddiadau cyfredol, cwestiynau cyfiawnder cymdeithasol, iaith a diwylliant lleiafrifol, yr amgylchedd a mwy.

Drwy ei erthyglau am wleidyddiaeth a chyfiawnder cymdeithasol, rhoddir Planet sylwebaeth fanwl unigryw ar hanner canrif gythryblus yn hanes Cymru. Mae’n croniclo pryderon a gobeithion drwy’r Rhyfel Oer, protestiadau gweithredu uniongyrchol dros y Gymraeg, ymddangosiad ffeministiaeth, Streic y Glowyr, Thatcheriaeth, integreiddio Ewropeaidd, datblygiad datganoli, Rhyfel Irac, newid hinsawdd, cyni, refferendwm yr UE, Mae Bywydau Du o Bwys, a Covid-19 – mater sy’n cael ei drafod yn ein cyfres newydd, ‘Breathing Freely: Possibilities for a Post-Pandemic Society‘.

Ers 2009, cyhoeddwyd ysgrifau nodwedd, podlediadau a fideos amserol ar Planet Extra, ac yn 2016, lansiwyd Planet Platform – gofod ar-lein i gyhoeddi gwaith gan fyfyrwyr a gafodd eu mentora gennym i ysgrifennu testun i’w gyhoeddi. Mae’n cynnal Cystadleuaeth Ysgrifennu Flynyddol i Awduron Ifanc i feithrin y genhedlaeth nesaf o newyddiadurwyr ac awduron.

Hanes Planet

Fe’i sefydlwyd yn wreiddiol fel cyhoeddiad bob yn ail fis gan Ned Thomas ym 1970, ac fe’i cyhoeddwyd yn barhaus tan 1979. Roedd hyn yn dilyn penderfyniad ym 1967 i ddatganoli swyddogaeth Cyngor Celfyddydau Prydain Fawr yng Nghymru i Gyngor Celfyddydau Cymru. Esboniodd Ned Thomas fod “gan gyfarwyddwr llenyddiaeth Cyngor y Celfyddydau, Meic Stephens, weledigaeth o greu sylfaen gyhoeddi yng Nghymru nad oedd wedi bodoli o’r blaen”. Ailenwyd y cylchgrawn yn Planet: The Welsh Internationalist ym 1977.

Ar drothwy refferendwm datganoli Cymru 1979, gan ragweld pleidlais “na”, penderfynodd Ned Thomas ddod â’r cylchgrawn i ben gan ei fod yn credu “y byddai pleidlais na yn golygu bod safiad ac ideoleg Planet wedi methu, a byddai pleidlais ie yn golygu bod angen cylchgrawn ar Gymru a gyhoeddwyd yn amlach nag unwaith bob deufis “.

Fe’i perswadiwyd i ail-lansio’r cylchgrawn ym 1985, a gyda gwell cyllid, cyflogwyd John Barnie fel cynorthwyydd amser llawn cyn dod yn olygydd yn 1990. Dilynwyd Barnie gan ei wraig Helle Michelsen, yn 2006, ac yn 2010 gan Jasmine Donahaye. Yn 2012, daeth Emily Trahair yn olygydd cyfredol, gyda Dafydd Prys ap Morus yn Olygydd Cynhyrchu a Helen Pendry yn Olygydd Cynorthwyol. Gyda Helen a Dafydd yn gadael, ymunodd Lowri Angharad Pearson yn 2015 fel Cynorthwyydd Gweinyddol a Marchnata a Hywel Edwards yn 2017 fel Swyddog Cynhyrchu. Mae’r tîm hefyd yn llunio gwefan Planet Extra.

Er bod Planet yn awgrymu rhywbeth enfawr, micro sefydliad yw Planet, sy’n ceisio estyn tu hwnt i gyfyngiadau statws gwleidyddol Cymru i roi cipolwg ar y byd drwy lygaid Cymru, a chipolwg ar Gymru drwy lygaid y byd.

Gwleidyddiaeth

Mae Planet wedi bod yn gyfrwng i rannu safbwyntiau gwleidyddol, a’r rheini’n aml yn rhai radical. Gosodwyd yn y rhifyn cyntaf, i George Thomas, Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd. Sefydlwyd y cylchgrawn yn sgil cyhoeddi The Welsh Extremist: a Culture in Crisis gan Ned Thomas – apêl i fudiad y New Left yn Lloegr a oedd yn egluro pam y dylai gydsefyll â mudiad y Gymraeg. Mae’r cylchgrawn wedi rhoi llwyfan i waith arloesol ar faterion sy’n amrywio o annibyniaeth wleidyddol i newid hinsawdd a cholli rhywogaethau, a hynny’n aml gryn amser cyn i’r materion hynny ddod yn rhan o agenda’r cyfryngau prif ffrwd.

Cyflwyno llenyddiaeth Gymraeg i’r di-gymraeg

Chwaraeodd y cylchgrawn rôl bwysig o ran pontio diwylliannau gwahanol mewn cenedl ranedig. O bryd i’w gilydd, rhoddir deunydd Cymraeg i ddarllenwyr di-gymraeg am y tro cyntaf drwy gyfieithu testunau fel araith ddylanwadol Saunders Lewis ar Dynged yr Iaith, a gwaith Kate Roberts a J.R. Jones. Yn fwy diweddar, rydym wedi dod â diwylliannau ieithyddol ynghyd drwy ein cyfres ‘Welsh Keywords’ a gafodd ei hysbrydoli gan y gyfrol Keywords gan un o’n cyn-noddwyr, Raymond Williams.

Heb Planet, byddai ein byd nid yn unig yn llai ac yn fwy mewnblyg ond hefyd yn dlawd o ran creadigrwydd a mynegiant deallusol. Mae Planet yn gylchgrawn o’r radd flaenaf ac fel rhywun sy’n teithio llawer iawn, nid wyf eto wedi dod o hyd i gylchgrawn tebyg iddo. Mae’n syml unigryw. Mae’n gylchgrawn o arwyddocâd a gwerth a ddylai dderbyn y gefnogaeth angenrheidiol i barhau, sy’n waith rhagorol. Mae Planet yn ein cysylltu â’r byd ehangach ond eto’n deall hynodrwydd lle, cenedl ac iaith. – Menna Elfyn, Bardd

Ysgrifennu creadigol

Chwaraeodd Planet rôl bwysig yn natblygiad Ysgrifennu Saesneg yng Nghymru drwy fod yn un o’r cyfryngau cyntaf i gyhoeddi gwaith arloesol o ardaloedd di-Gymraeg gan awduron fel Ron Berry, Alun Richards, Rachel Trezise a Gee Williams. Mae’r cyfresi diweddar, ‘Retracing Wales’ a ‘Reading Between the Lines’, yn mynd â’r darllenydd i bob cwr o Gymru, ac maent yn enghreifftiau o’r ffordd y mae Planet yn rhoi cipolwg ar wahanol brofiadau o wahanol safbwyntiau, gan annog gwlad ranedig i ymddiddan â hi ei hun.

Celf

Hybodd y cylchgrawn ddiwylliant gweledol Cymru, gan roi llwyfan cynnar i feirniaid celf fel Peter Lord ac Osi Rhys Osmond. Mae’n dal i drin a thrafod celfyddydau cyfoes Cymru, o’r mwyaf heriol a blaengar i’r mwyaf poblogaidd.

Y byd

Mae gwedd ryngwladol Planet wedi dod i’r amlwg mewn gwahanol ffyrdd ar hyd y blynyddoedd, ac mae’n dal i esblygu. Mae’r cylchgrawn wedi cyhoeddi erthyglau sy’n cysylltu Cymru â chenhedloedd Ewropeaidd eraill heb wladwriaeth, o erthygl Sartre am Dreialon Burgos a hawliau siaradwyr ieithoedd lleiafrifol, i waith awduron o’r Alban, Llydaw, Catalonia, Cernyw, Gogledd Iwerddon a thu hwnt. Yn ddiweddar, mae ein cyfres sy’n cymharu profiadau diwylliannol a gwleidyddol cymunedau glofaol Cymru â chymunedau tebyg ledled y byd wedi rhoi cipolwg ar y profiadau hyn o safbwynt rhyngwladol. O’r dechrau, pan oedd maes ‘Llenyddiaeth Ôl-drefedigaethol’ yn ei fabandod, mae Planet wedi rhoi llwyfan i awduron o wledydd ôl-drefedigaethol ledled y byd fel Ngũgĩ wa Thiong’o, Jean Rhys a Naguib Mahfouz, ac, yn fwy diweddar, i leisiau sy’n cynrychioli safbwyntiau Gwledydd y De – India, Camerŵn, Irac, Kurdistan a thu hwnt – drwy waith Manoranjan Byapari, Eric Ngalle Charles, Rabab Ghazoul a Ciwanmerd Kulek ymhlith eraill.

Planet has been the sole constant in my 35-year love affair with Wales. My subscription to Planet, which goes back to 1985 or so, has been my lifeline to my chosen country. It allows me to keep up with political debates; it’s introduced me to scores of new writers, scholars, and artists; allowed me to burrow into topics as diverse as LGBT rights and aerial archaeology. Simply put, without Planet I wouldn’t be as gleefully Welsh as I’ve become. Perhaps due to the ambitious context of its subtitle—‘The Welsh Internationalist’—Planet has held itself to an exceedingly high standard and never wavered. It is a beacon to readers at home and abroad, and is utterly unique. Please keep it alive!
– Pamela Petro, US author and artist