Dathliad Pen-blwydd Planet yn 50 oed

Digwyddiad i ddathlu carreg filltir a chodi arian i’r cylchgrawn Planet yn Amgueddfa Ceredigion.

Maldwyn Pryse
gan Maldwyn Pryse
Panelwyr y sesiwn brynhawn
Golygydd a chyn olygyddion Planet
Owen Shiers
Eric Ngalle Charles
Mike-Jenkins

yn wreiddiol o Benparcau

Ned Thomas y golygydd cyntaf a'i fab Danny

Roedd 2020 yn nodi hanner can mlynedd ers lansio’r cylchgrawn Planet, sydd â’i wreiddiau yn Aberystwyth. Fe wnaeth Covid-19 atal dathlu wyneb yn wyneb ar y pryd, ond ddydd Sadwrn, 17 Medi, daeth cynulleidfa werthfawrogol ynghyd, dan lywyddiaeth fedrus yr awdur Mike Parker, yn Amgueddfa Ceredigion i ddathlu’r garreg filltir nodedig hon.

Cafwyd gwledd o gyflwyniadau ynghyd â sesiwn holi ac ateb buddiol yn y prynhawn ar y thema ‘Cymru yn y byd yn 2022’:

  • ‘What future for Welsh internationalism?’ – Daniel G. Williams
  • ‘Pa ddyfodol i’r iaith Gymraeg’ / ‘What future for the Welsh language?’ – Mabli Siriol Jones
  • ‘What future for environmental justice?’ – Hussein Said
  • ‘What future for Welsh autonomy?’ – Dan Evans

Yna, i gloi’r sesiwn bu’r bardd Menna Elfyn yn darllen darnau pwrpasol o’i gwaith.

Yn y nos cafwyd dathliad pellach i nodi pen-blwydd a pharhad Planet.  Y tro hyn cyflwynwyd y gynulleidfa i gyn-olygyddion a golygydd presennol Planet a chafwyd mewnwelediad arbennig i ddatblygiad y cyhoeddiad radical hwn o weledigaeth arloesol Ned Thomas yn 1970 hyd at her cyhoeddi ôl Brexit ac oes y cyni o dan y llywodraeth adain dde eithafol bresennol.

Yn dilyn y sesiwn ddiddorol hon bu gweddill y noson yn gyfnod o fwynhau gwledd o gerddoriaeth a barddoniaeth. Cyflwynodd Mike Parker ystod o berfformwyr medrus a hynod dalentog:

  • Katell Keineg
  • Owen Shiers
  • Eric Ngalle Charles, yn wreiddiol o Cameroon
  • Mike Jenkins – gynt o Benparcau.

Er ei fod weithiau‘n cael ei weld fel ‘cylchgrawn diwylliannol’, mae Planet bob amser wedi dod o hyd i ffyrdd o fod yn llestr ar gyfer safbwyntiau gwleidyddol radical, o her agoriadol y rhifyn cyntaf i waddol George Thomas, oedd newydd orffen fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ymlaen. Deilliodd y cylchgrawn o gyhoeddiad The Welsh Extremist: a Culture in Crisis gan ei olygydd gwreiddiol, Ned Thomas – apêl i’r Chwith Newydd Saesneg pam y dylent fod mewn undod â’r mudiad Cymraeg. Mae wedi darparu llwyfan ar gyfer gwaith arloesol ar bynciau o annibyniaeth wleidyddol i newid yn yr hinsawdd a cholli rhywogaethau – yn aml ymhell cyn i’r materion hyn fod ar agenda’r cyfryngau prif ffrwd.

Yn ddi-os bydd y blynyddoedd nesaf yn heriol iawn i Planet, gan ei fod bellach yn derbyn llai na hanner y grant a gafwyd gan Gyngor Llyfrau Cymru yn 2008 ac yn gweithredu ar sawl platfform o ran cyhoeddi. I danysgrifio a chefnogi, trowch i wefan Planet: https://www.planetmagazine.org.uk/

Am fwy o wybodaeth am y cylchgrawn, ewch yn ôl at BroAber360:

https://broaber.360.cymru/2020/blwydd-hapus-planet/

Ar sail y dathliadau a’r cyfraniadau a gafwyd ddydd Sadwrn, mae Planet yn mynd o nerth i nerth ac yn cyrraedd mwy a mwy o ddarllenwyr. Mae ganddynt lawer o syniadau cyffrous ynghylch sut y gall y cylchgrawn ffynnu ymhellach, a gyda digon o gefnogaeth maent yn hyderus y gall y rhain ddwyn ffrwyth.