Taith beic er cof am Daniel

Dathlu bywyd Dan gyda’r Clwb Beicio a fu mor bwysig iddo

Mererid
gan Mererid

Brawychwyd trigolion Aberystwyth a Llanbadarn gyda marwolaeth ddiweddar Daniel Aled Davies ym mis Rhagfyr.

Sefydlodd rhieni Daniel, Julie a Gareth Davies o Lanbadarn gronfa er cof amdano, sydd wedi codi £15,705 (heb gynnwys rhodd gymorth) er budd elusen PAPYRUS a gallwch gyfrannu yma.

Fel beiciwr profiadol ac aelod o Glwb Beicio Ystwyth, ar ddydd Sul, yr 2il o Ionawr 2022, cynhaliwyd ras beics er cof am Daniel. Roedd y clwb yn rhan bwysig o fywyd Dan, ac enillodd sawl ras yn ei gyfnod gyda’r clwb.

Dywedodd Anita Saycell ar ran y Clwb Beicio: –

Gyda thristwch mawr, rydym wedi colli beiciwr talentog a ffrind agos i lawer yn y clwb.

Roedd Dan Davies yn feiciwr a rhedwr toreithiog ac fe gyffyrddodd â llawer o’n bywydau.

Roedd ei egni a’i hiwmor bob amser yn llenwi ystafell ac yn dod â chwerthin, tynnu coes a hwyl p’un ai ar reid, rhediad neu amser yn sgwrsio.

Bydd colled fawr ar ei ôl gan bob un ohonom a oedd yn ei adnabod.

Mae’r clwb yn meddwl am ffrindiau a theulu Dan ar yr adeg anodd hon ac yn anfon eu cydymdeimlad gan bawb yn y clwb beicio.

Roedd y ras yn cwmpasu taith 30 neu 50 milltir o hyd ac yn stopio yng Nghaffi Cwtch ym Mhontrhydgroes.

Dyma galeri o luniau’r diwrnod