Pob lwc Dafydd

Penodi Prif Weithredwr Newydd Cyngor Celfyddydau Cymru – o Aberystwyth

Mererid
gan Mererid

Mae dros wythnos ers y cyhoeddiad mai Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth fydd Prif Weithredwr newydd Cyngor Celfyddydau Cymru, gan ddechrau ei swydd newydd yn yr hydref.

Ar ran bawb yn ardal BroAber360 – diolch yn fawr iawn i Dafydd am ei holl waith.

Yn enedigol o Ddyffryn Aman, dechreuodd Dafydd ar ei yrfa yn y cyfryngau yn y 1980au yn gweithio ar raglenni plant ac adloniant ysgafn i HTV Cymru.

Roedd yn un o Gyfarwyddwyr cwmni cynhyrchu teledu annibynnol Criw Byw o 1988-1991 yn cynhyrchu rhaglenni ieuenctid a rhaglenni dogfen gelfyddydol, a rhwng 1991-1998 bu’n Olygydd Comisiynu ac yna’n Gyfarwyddwr Darlledu S4C.

Sefydlodd gwmni cynhyrchu annibynnol Pop 1 fel rhan o grŵp Tinopolis yn 2000 cyn ymgymryd â rôl Cyfarwyddwr Cynnwys S4C ym mis Mawrth 2012.

Roedd yn Gyfarwyddwr Cynnwys S4C o 2012 hyd 2016. Yn ystod yr amser hwn, bu’n arwain tîm a fu’n gyfrifol am gomisiynu ystod eang o raglenni, gan gynnwys cyfres ddrama dditectif Y Gwyll a gafodd ei ffilmio yng Ngheredigion ac sydd wedi’i gwerthu ar draws y byd.

Mae’n Gadeirydd PYST sydd yn rhedeg sianel AM Cymru ac yn ymddiriedolwr Cyngor y Celfyddydau ers 2017.

Daeth Dafydd i Aberystwyth yn 2018 i’w rôl yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Wedi cyfnod llwyddiannus o ddenu Côr Cymru a Chân i Gymru i Aberystwyth, daeth COVID a chyfnod anodd i’r Ganolfan heb lawer o weithgareddau yn bosibl.

Llongyfarchiadau Dafydd

Rhaid llongyfarch Dafydd ar lwyddiant Operation Julie a’r arddangosfeydd llwyddiannus iawn yn ddiweddar.

Ewch ’da chi i weld arddangosfa Ogwyn Davies (tan y 12fed o Fedi) a cerameg Paul Scott (tan 25ain o Fedi) ac o’r 1af o Fedi tan y 29ain o Hydref – arddangosfa arbennig i ddathlu 50 mlynedd o Ganolfan y Celfyddydau.

Meddai’r Athro Elizabeth Treasure:

“Llongyfarchiadau gwresog i Dafydd ar y penodiad hynod gyffrous a haeddiannol hwn. O ystyried arweinyddiaeth ragorol Dafydd o Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth dros y blynyddoedd diwethaf, nid yw’n syndod bod galw am ei sgiliau, ei greadigrwydd a’i brofiad ar lefel genedlaethol. Mae gennym berthynas gref iawn gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, ac mae’n newyddion da i ni y bydd y Prif Weithredwr newydd yn rhywun sydd â dealltwriaeth mor ddwfn o’r celfyddydau tu hwnt i’r dinasoedd mwy. Edrychwn ymlaen at weithio gyda Dafydd yn ei rôl newydd a pharhau i symud Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ymlaen o dan arweiniad newydd maes o law.”