Cyngor Tref Aberystwyth

Beth sydd ar agenda Cyngor Tref Aberystwyth?

gan Cyngor Tref Aberystwyth

Mae’n gyfnod cyffrous i’r Cyngor Tref yn Aberystwyth.

Agorwyd Maes Gwenfrewi i’r cyhoedd ar ôl cael ei adnewyddu dydd Sadwrn y 23ain o Orffennaf.

Mae’r Cyngor Tref yn paratoi i adnewyddu’r hen adeilad drws nesaf i’r parc sef yr hen Eglwys St Winefride’s.  Prynodd y Cyngor Tref yr adeilad ar gyfer y gymuned a’i hailenwi’n Neuadd Gwenfrewi. Yn ogystal â’r gofod swyddfa sydd ei angen ar y Cyngor Tref (rydym yn rhentu gofod swyddfa ar hyn o bryd), rydym yn gobeithio y byddwch yn dweud wrthym beth yr hoffech ei weld yno.

O sgyrsiau anffurfiol gyda grwpiau a gwaith ymgynghori a wnaed hyd yn hyn, mae’r Cyngor Tref wedi adnabod man ymarfer a lleoliad cerddoriaeth ar gyfer yr eglwys, tra bod potensial enfawr ar gyfer y gofod sydd ar hyn o bryd yn hen gwt sgowtiaid a garej o ran adeiladu yn union beth sydd ei angen ar y gymuned.

Holiadur

Mae’r Cyngor Tref angen eich barn chi drwy lenwi’r holiadur byr yma.

Planhigion a blodau

Mae’r Cyngor Tref hefyd am wella’r pocedi o fannau gwyrdd yn Aberystwyth.

Maent wedi mabwysiadu gwelyau garddio a mannau gwyrdd amrywiol gan Gyngor Sir Ceredigion yn swyddogol. Fel cam cyntaf, plannwyd pamau’r prom â phlanhigion lluosflwydd sy’n gwrthsefyll halen. Efallai y bydd rhai planhigion angen eu hamddiffyn rhag stormydd y gaeaf, ond maent yn gobeithio y byddant yn ennyn diddordeb trwy gydol y flwyddyn wrth gynnal bywyd gwyllt.

Mae mannau eraill i’w gwella yn cynnwys y lawntiau o flaen Neuadd y Dref, gyda syniadau fel gerddi perlysiau ffurfiol yn cael eu hystyried, tra gallai pocedi eraill fod yn fwy addas ar gyfer dolydd blodau gwyllt.

Mae’r Cyngor Tref yn awyddus i wneud cymaint ag y gall i wneud Aberystwyth yn brydferth felly cadwch lygad am newyddion ar ddatblygiadau cyffrous pellach.