Cyngor Cymuned Llanilar 2022

Pwy sydd wedi eu hethol ar Gyngor Cymuned Llanilar?

Roedd Ebrill yn fis trist i gymuned Llanilar wedi colli Rowland Jones, cyn-gynghorydd sir ward Ystwyth a chynghorydd cymuned ward Llanilar. Anfonir ein cydymdeimlad gyda theulu Rowland, gan ddiolch iddynt am ganiatáu i Rowland gyflawni cymaint dros y blynyddoedd.

Ychydig iawn o newid sydd wedi bod yng Nghyngor Cymuned Llanilar, lle mae lle i 10 aelod. Er bod etholiad am y ward Cyngor Sir Ystwyth rhwng Meirion Davies a Kerry Ferguson, does dim etholiad ar gyfer y Cyngor Cymuned.

Dyma’r cynghorwyr sydd yn parhau ac wedi eu hailethol: –

  • Cyng. John W Davies, Llysawel, 5 Talardeg, Llanilar (01974 241154)
  • Cyng. J E Meirion Davies, Gorswgan, Llanilar (01974 241631)
  • Cyng. Dylan W Edwards, 8 Dol Ystwyth, Llanilar (01974 241358)
  • Cyng. D Michael Francis, 2 Cwm Aur, Llanilar, (01974 241428)
  • Cyng. Amanda Jones, Talardeg, Llanilar
  • Cyng. D Caredig Jones, Blaenwern, Llanilar (01974 241267)
  • Cyng. Dewi M Rattray, Fferm Llidiardau, Llanilar (01974 241436)

Mae dau gynghorydd newydd yn ymuno a’r uchod sef: –

  • Dylan Wilson-Lewis (Y Blaid Lafur)
  • Ann Lloyd

Mae’r Cyngor yn ffarwelio gyda Richard G Davies (Bryn-yr-Allt), Ada C Evans (Rhos y Barcud) ac wrth gwrs Rowland Jones.

Diolch iddynt i gyd am eu cyfraniad i gymuned arbennig.